Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd Meddwl a Myfyrwyr

Pan fo'r flwyddyn academaidd yn dechrau, daw tua 9,000 o fyfyrwyr i fyw i Aberystwyth, gan bron iawn ddyblu poblogaeth y dref a'r gymuned. Mae hyn yn dod â bywyd newydd i dref glan-môr dawel. Eto i gyd, rydyn ni yma yn Undeb y Myfyrwyr wastad yn clywed am fyfyrwyr sy'n cael profiadau gwael wrth geisio mynediad i wasanaethau iechyd lleol;

laurenofficerblogwelshpresidentwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Pan fo'r flwyddyn academaidd yn dechrau, daw tua 9,000 o fyfyrwyr i fyw i Aberystwyth, gan bron iawn ddyblu poblogaeth y dref a'r gymuned. Mae hyn yn dod â bywyd newydd i dref glan-môr dawel. Eto i gyd, rydyn ni yma yn Undeb y Myfyrwyr wastad yn clywed am fyfyrwyr sy'n cael profiadau gwael wrth geisio mynediad i wasanaethau iechyd lleol; o gael apwyntiad â'u meddyg teulu, i gael eu dargyfeirio at wasanaethau maent eu hangen, i gael mynediad i wasanaethau iechyd meddwl, ynghyd â nifer o bethau eraill. Rydw i'n bersonol wedi cael profiadau gwael â gwasanaethau iechyd lleol, gan i mi gael diagnosis am gyflwr oedd yn bygwth fy mywyd fwy nag 8 mis ar ôl i mi ddweud wrth rywun bod rhywbeth o'i le.

Mae myfyrwyr yn chwarae rhan sylweddol yn y gymuned leol, a dylent gael y gefnogaeth maent ei hangen yn lleol pan fyddan nhw'n dod yma i astudio. Rydyn ni wedi cwrdd â'n AS lleol, a byddwn yn cwrdd yn fuan â Bwrdd Iechyd Hywel Dda ynglyn â'r mater hwn. Credaf na ddylid trin myfyrwyr yn wahanol i unrhyw aelodau eraill o'r gymuned.

Eleni, rydyn ni'n rhoi blaenoriaeth i hyn, felly rydyn ni am i chi ddweud wrthym ynglyn â'ch profiadau â gwasanaethau iechyd lleol, gan gynnwys y ddarpariaeth ar gyfer iechyd meddwl. A fyddech cystal â defnyddio'r ddolen ganlynol (https://umabersu.wufoo.com/forms/ppireww1hbg6sh/) i gyrchu ein ffurflen ar wasanaethau iechyd ac iechyd meddwl, a dweud wrthym yn onest sut brofiad oedd cael mynediad i'r gwasanaethau angenrheidiol hyn fel myfyriwr. Po fwyaf o dystiolaeth sydd gennym ni, mwyaf yn y byd o wahaniaeth allwn ni ei wneud.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglyn â'n hamcanion, neu bryderon ynglyn â'r math o wybodaeth y byddwch efallai am ei rhannu â ni, mae croeso i chi gysylltu â fi ar undeb.llywydd@aber.ac.uk.

Comments

 
There are no current news articles.
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576