Blog bwyd

Pan oeddwn i'n fyfyriwr, roeddwn i'n ei chael hi'n anodd siopa am fwyd fyddai'n para'n hir a byddwn i wastad yn prynu pizzas a phasta parod. Efallai dydw i ddim yn arbenigwr nawr, ond dwi'n meddwl fy mod i'n dechrau gwella.

naomiofficerblogwelshwelfarewelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Gall symud o gartref fod yn heriol, ac mae gorfod coginio eich prydau eich hun yn bwysedd ychwanegol y byddai'n well gan rai ohonom ni ei osgoi. Mae prydau parod a bwyd i fynd yn sicr yn opsiwn hawdd, ond gallan nhw gael effaith sylweddol ar eich cyfrif banc (ac yn wir eich iechyd). Pan oeddwn i'n fyfyriwr, roeddwn i'n ei chael hi'n anodd siopa am fwyd fyddai'n para'n hir a byddwn i wastad yn prynu pizzas a phasta parod. Efallai dydw i ddim yn arbenigwr nawr, ond dwi'n meddwl fy mod i'n dechrau gwella. I'ch ysbrydoli chi i goginio, dyma fy rhestr siopa bwyd wythnosol yn ogystal â sut dwi'n gwneud defnydd (gweddol) da ohoni. Os dwi'n gallu gwneud hynny, gallwch chi hefyd!

Mae'n bwysig eich bod chi'n prynu bwyd rydych chi'n ei hoffi, felly dwi wastad yn prynu digon o fwyd gwyrdd. Hefyd, dwi'n dewis yfed llaeth almon am ei fod yn iachach ac yn para'n hwy yn yr oergell (felly llai o wastraff). Mae bod â chyflenwad da o berlysiau i ychwanegu tipyn bach o flas at eich bwyd yn ddefnyddiol iawn – yn bersonol, dwi'n dwli ar ddefnyddio pupur du, paprica, persli a basil.  Sylweddolwch fod mwyafrif y prydau dwi'n eu coginio'n cynnwys cynhwysion nad oedd ar fy rhestr siopa wythnosol, fel y perlysiau. Mae hi wastad yn ddefnyddiol llenwi eich cypyrddau gyda chynhwysion gallwch eu defnyddio mewn llawer o wahanol ryseitiau fel dresins, sawsiau, ciwbiau stoc ayyb.

Y rhestr siopa

Moron rhydd x 3 – 32c

Pannas rhydd x 3 – 57c

Tatws melys – 95c

Winwns gwyn – 59c

Tatws bach – 89c

Orennau - £1

Pasta Gweinith Cyflawn – 59c

Broccoli – 45c

Llaeth almon - £1.50

Mozzarella – 70c

Cig eidion wedi'i ddeisio - £2.89

400g brest cyw iâr - £4

Tomatos bach melys – 53c

Passata x3 – 40c yr un

Sbigoglys bach - £1.50

Ffa gwyrdd - £1

Caws feta - £1.20

Pupurau cymysg - £1.50

Bananas rhydd – 48c

Cawl tomato Covent Garden - £1.17

12 wy buarth canolig - £1.75

Cyfanswm: £24.78

Y prydau

• Frittata – cynhwysion: winwns, pupur coch, taten felys, sbigoglys, wyau, feta. Llwyddodd y pryd hwn i bara am ddau swper a dau ginio.

• Cawl tomato Covent Garden gyda sleis o fara brown garw (gallwch brynu torth o fara am lai na £1) – roedd un carton yn ddigon i greu dau ginio. 

• Stiw cig eidion – cynhwysion: cig eidion wedi'i ddeisio, tatws bach, winwns, moron, pannas, stoc cig eidion a llond llaw o ronynnau grefi – llwyddodd hwn i bara am ddau swper ac un cinio. 

• Brest cyw iâr wedi'i stwffio â mozzarella a phesto gyda thaten felys bob, broccoli a ffa gwyrdd. Un cinio gyda'r nos oedd y pryd hwn gan amlaf, ond dwi wastad yn cael y pryd hwn fwy nag unwaith yr wythnos a byddwn i'n amrywio'r ffordd o goginio'r cyw iâr e.e. gyda gwahanol berlysiau.

• Salad cyw iâr – brest cyw iâr, sbigoglys, tomatos a phupur gydag ychydig o ddresin salad Cesar. Un i ginio oedd hwn.

Gobeithio bydd hyn yn rhoi o leiaf rhyw syniad i chi o ran sut mae modd troi un daith i'r siop yn werth wythnos o brydau – hefyd mae llawer o gynhwysion na chafodd eu defnyddio yn y prydau uchod a dwi'n meddwl bod creu prydau cyflym gyda'r cynhwysion sydd gen i'n weddill yn gallu bod yn ddifyr. Er enghraifft, dwi wastad yn cadw bag o friwgig Quorn yn y rhewgell (mae'n blasu fel briwgig cyffredin, ond mae'n iachach ac mae modd ei goginio'n syth o'r rhewgell), felly yn aml dwi'n defnyddio ambell gynhwysyn drwy wneud Bolognese – mae cyflenwad da o passata/tun o domatos yn ddefnyddiol ar adegau fel hyn. Pryd da arall yw omled gydag wyau a llysiau sy'n weddill. Y syniad gorau yw gwneud prydau sy'n addas i chi a phrynu cynhwysion y gellir eu defnyddio mewn llawer o wahanol ffyrdd.

Hintiau handi

  • Prynwch gynhwysion y gellir eu defnyddio mewn llawer o wahanol ffyrdd.
  • Yn ogystal â hynny, prynwch gynhwysion a fydd yn caniatáu i chi wneud llwyth mawr o fwyd a fydd yn para am fwy nag un pryd. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol pan fyddwch chi'n brysur; byddwch chi'n treulio llai o amser yn coginio.
  • Sicrhewch fod gennych chi gyflenwad da o berlysiau fel bod modd i chi amrywio blas eich prydau a rhoi mwy o gyffro yn eich bwyd.
  • Defnyddiwch eich rhewgell – mae cig yn tueddu i ddyddio'n gyflym, yn enwedig cyw iâr. Felly, buddsoddwch mewn bagiau rhewgell a rhewch eich cig mewn dognau. Os ydych chi'n gwybod ymlaen llaw beth fyddwch chi am ei goginio y noson honno, gallwch dynnu'r cig allan o'r rhewgell yn y bore a'i adael i ddadrewi yn ystod y dydd.
  • Os ydych chi'n un am fyrbrydau (rhaid i mi gael fy misged ddyddiol), cadwch lygad allan am fargeinion ar eich hoff fyrbrydau a phrynwch gyflenwad ohonynt. Neu rhowch gynnig ar frand rhatach yr archfarchnad – yn aml iawn maen nhw'n blasu'r un mor dda am hanner y pris.
  • Yn aml, mae prynu amlbecynnau'n gallu bod yn llawer rhatach yn yr hirdymor na phrynu eitemau unigol, felly sicrhewch eich bod chi'n pwyllo ac yn ystyried a ydych chi'n cael y gwerth gorau am arian pan fyddwch chi'n dewis eitemau i'w rhoi yn eich troli.
  • Dewch â'ch ffrindiau a'ch cydletywyr ynghyd a choginiwch bryd gyda'ch gilydd – gallwch chi gyd rannu cost y cynhwysion ac mae hi wastad yn ffordd wych o dreulio amser gyda'ch gilydd ac anghofio am straen gwaith academaidd am sbel. 

Comments

 
There are no current news articles.
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576