Fel elusen, mae gan Undeb y Myfyrwyr Fwrdd Ymddiriedolwyr. Mae'r Bwrdd hwn yn cynnwys deuddeg Ymddiriedolwr: y pum swyddog etholedig llawn-amser; dau fyfyriwr etholedig (1 myfyriwr israddedig ac 1 ôl-raddedig); a phum Ymddiriedolwr allanol a benodir am eu gwybodaeth arbenigol mewn meysydd fel y gyfraith a chyllid i ddarparu arbenigedd annibynnol i'r Bwrdd.
Rôl gyffredinol y Bwrdd yw sicrhau bod yr Undeb yn cael ei redeg yn dda, gan gyflawni ei nodau ac yn gweithio o fewn y fframwaith cyfreithiol a chyfansoddiadol a nodwyd. Nid yw ymddiriedolwyr yn ymwneud â materion o ddydd i ddydd, ond yn hytrach maent yn cymryd trosolwg o berfformiad yr Undeb, yn gyllidol ac o ran darparu gwasanaethau i fyfyrwyr.
Mae’r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:
- Gwneud yn siwr bod y penderfyniadau y mae'r Undeb yn eu gwneud er budd gorau'r Undeb a'i aelodau
- Pennu cynlluniau a chyfeiriad hir-dymor yr Undeb
- Gwneud yn siwr bod yr Undeb yn defnyddio ei adnoddau cyllidol yn gywir a'i fod yn ariannol hyfyw
- Sicrhau bod yr Undeb yn gweithio o fewn y gyfraith a'r cyfansoddiad
Disgrifiad Rôl:
Rôl Ymddiriedolwr Israddedig
Rôl Ymddiriedolwr ôl-raddedig