Mae Cynrychiolwyr i Gynhadledd UCM yn mynychu Cynhadledd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) i gynrychioli myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Gall cynrychiolwyr gymryd rhan mewn trafodaethau a phleidleisio ar ein rhan i benderfynu ar bolisi cenedlaethol ac ethol cynrychiolwyr cenedlaethol. Gallwch ganfod mwy o wybodaeth ynglyn â Chynadleddau Democrataidd UCM yma.
Mae'r ymrwymiad amser yn cynnwys cyfnod y gynhadledd (ynghyd ag amser teithio i'r lleoliad os oes angen hynny) yn ogystal â sesiynau rhagwybodaeth cyn y gynhadledd ac adborth ar ôl mynychu'r digwyddiad. Mae Undeb y Myfyrwyr yn talu ffioedd cofrestru ar gyfer y gynhadledd, ynghyd â chostau llety a theithio ar ran pob cynrychiolydd.
Rydym yn ethol cynrychiolwyr ar gyfer tair cynhadledd:
- Cynhadledd UCM y DU - ac rydym yn anfon 2 chynrychiolydd.
- Cynhadledd UCM Cymru - ac rydym yn anfon 4 chynrychiolydd.
- Cynhadledd Ryddhad UCM y DU - ac rydym yn anfon 6 chynrychiolydd.
Cynadleddau UCM – Canllaw
Cynrychiolwyr i’r Gynhadledd Ryddhad
Yng Nghynadledd Ryddhad UCM y DU, mae lleoedd wedi’i neilltuo ar gyfer myfyrwyr sy'n diffinio i grwpiau a gynrychiolir yn benodol:
- Dau Fyfyriwr Croenddu* - rhaid i un lle gael ei neilltuo ar gyfer Dynes Groenddu.
- Un Myfyriwr Traws
- Un Myfyriwr LHDT+
- Un Myfyriwr Anabl
- Un Fyfyrwraig
Cynigir lleoedd yn gyntaf i'r Swyddogion Gwirfoddol dynodedig sy'n cael eu hethol yn Etholiadau’r Swyddogion a gynhelir ym mis Mawrth ac Is-Etholiadau’r Gwanwyn a gynhelir wedi hynny (er enghraifft byddai'r Swyddog LHDTC+ yn cael cynnig y lle i Fyfyriwr LHDT+ neu Fyfyriwr Traws). Pan fydd lleoedd heb eu llenwi neu fod rhywun yn methu â mynychu, bydd lleoedd ar gael yn Is-Etholiad yr Hydref.