Gweithdy Compostio

Gwastraff yn troi'n bridd i dyfu bwyd

Rydym yn sefydliad dielw newydd wedi'i leoli ym Machynlleth, Powys ac yn darparu
gwasanaeth biowastraff economi gylchol lawn, gan gymryd gwastraff bwyd a
deunyddiau bioddiraddadwy a’u troi’n gompost maethlon ar gyfer tyfu bwyd organig
lleol.

Bydd Criw Compostio yn cynnal diwrnod gweithdy compostio ddydd Sadwrn 16 Tachwedd. Bydd y diwrnod wedi'i leoli yn hwb newydd Bwyd Dros Ben Aber yn 5 Y Stryd Fawr a bydd yn cynnwys cwpl o ymweliadau safle yn Aberystwyth gan gynnwys rhandir cymunedol Plas Crug a'r compostiwr Ridan ym Mhenparcau.

Mae'n rhaid cadw lle. Anfonwch e-bost at Lucy tyfuabergrow@gmail.com gyda'ch enw a'ch manylion cyswllt.

Mae'r diwrnod yn rhad ac am ddim. Dewch â'ch mwg a'ch cinio eich hun os gwelwch yn dda. Bydd lluniaeth ar gael yn ystod y dydd.

Byddwn yn dysgu am rai o'r canlynol, nodwch, pan fyddwch yn cadw lle, pa feysydd y mae gennych y diddordeb mwyaf ynddynt:
~ Beth i chwilio amdano mewn safle addas
~ Awgrymiadau ar siarad am gompostio gwastraff lleol fel cymuned
~ Sut mae graddfa'n effeithio ar eich dyluniad
~ Dulliau compostio gwahanol
~ Dylunio ar gyfer gwahanol rinweddau compost
~ Profion compost - ar y safle ac mewn labordy – ac arwyddion compost da
~ Casgliadau a mathau o wastraff i'w defnyddio/osgoi/bod yn wyliadwrus ohonynt
~ Rheoliadau, safonau ac Iechyd a Diogelwch
~ Ymweliadau lleol â'r compostiwr ridan ym Mhenparcau a'r biniau compostio cymunedol newydd ym Mhlas Crug

 

Mwy i ddod

Marathon Ffilm
2nd-13th Rhagfyr
short desc?
Arddangosfa Dawns
6th Rhagfyr
UM Prif Ystafell
short desc?
Parkrun Aberystwyth
7th Rhagfyr
Plascrug Avenue
short desc?
Marchnad Ffermwyr Aberystwyth
7th Rhagfyr
Yr Hen Depo
short desc?
Gwirio Ssain y Nadolig
7th Rhagfyr
UM Bar (Cwtch)
short desc?
Gwyl y Celfyddydau
9th-14th Rhagfyr
Gweithdy Gwneud Sêr
10th Rhagfyr
UM Ystafell 4
short desc?
Gemau BUCS
11th Rhagfyr
Adref / I Ffwrdd
Sesiynau Ymgysylltu gyda SSAGO
11th Rhagfyr
Picturehouse

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576