Gweithdy 'Technegau Seicoleg Gadarnhaol ar gyfer Cynorthwyo Llesiant a Hunan-dosturi' gan Paula Dixon a Marjorie Raymond
***Bachwch docyn AM DDIM a chaiff y ddolen Zoom ei hanfon atoch y diwrnod cyn y gweithdy***
Fel ffordd o wella llesiant, mae'r gweithdy hwn sy'n seiliedig ar Seicoleg Gadarnhaol yn darparu ystod o dechnegau defnyddiol i'w hychwanegu at eich 'pecyn cymorth' ar gyfer llesiant personol. Mae’n cynnwys tair elfen graidd: Meddylgarwch ac ymwybyddiaeth o’r foment hon, Mynd i'r afael â 'bwystfilod y meddwl' a Hunan-dosturi. Bydd y sesiwn ymarferol hon yn eich cynorthwyo i gynyddu eich gallu i ymdopi’n gadarnhaol a meithrin gwytnwch.
Fel y dengys ymchwil, trwy fod yn gwbl 'bresennol' trwy ddefnyddio meddylgarwch, mae'n bosibl defnyddio technegau ar gyfer ymdopi’n effeithiol â datrys problemau. Mae hyn yn cynorthwyo'r gallu i ffurfio meddylfryd cadarnhaol a gwneud dewisiadau gwell sydd o fudd i’ch llesiant.
Yn ogystal â hyn, trwy allu nodi'r trapiau meddwl negyddol yr ydym i gyd yn dueddol o gael ein dal ynddynt pan fyddwn ni dan bwysau, mae'n bosibl mynd i'r afael â'r meddyliau cyfyngol hyn am yr hyn ydyn nhw mewn gwirionedd: dim ond meddyliau! Mae hyn yn ei dro yn cynyddu ein gallu i ddod yn fwy hunanymwybodol a, dros amser, dysgu ymdopi'n well, yn gyflymach ac yn fwy llwyddiannus.
Mae ymchwil hefyd yn dangos bod hunan-dosturi yn fuddiol ar sawl lefel: mwy o hapusrwydd a chymhelliant, teimladau gwych o hunan-werth a llai o deimladau pryderus, iselder ysbryd a straen.
Trwy ymwneud â'r technegau hyn yn ystod y sesiwn, bydd mynychwyr yn gadael gyda mwy o allu i hunanreoli ac ymdopi’n gadarnhaol er mwyn cynorthwyo eu llesiant.
Ymunwch yma: https://us02web.zoom.us/j/88501801837
***Bachwch docyn AM DDIM a chaiff y ddolen Zoom ei hanfon atoch y diwrnod cyn y gweithdy***