Dod yn amherffeithydd (a sut y bydd hyn yn arwain at fwy o lwyddiant a llesiant) gweithdy gan Lucy Orton

***Bachwch docyn AM DDIM a chaiff y ddolen Zoom ei hanfon atoch y diwrnod cyn y gweithdy***

Yn y sesiwn hon, bydd Lucy Orton, arbenigwr gwrth-hunan-ddifetha, podlediwr a hyfforddwr seicoleg gadarnhaol (a chyn-berffeithydd!) yn siarad am ei hangerdd am amherffeithrwydd a sut y gall gollwng tueddiadau perffeithydd, sy’n llawer rhy gyffredin, greu lle ar gyfer mwy o greadigrwydd, mwy o lwyddiant a mwy o lesiant.

Mae Lucy’n teimlo’n angerddol ynghylch bod yn or-garedig â chi'ch hun, o leihau'r pwysau rydyn ni'n ei bentyrru arnom ein hunain ym mhob agwedd ar fywyd ac o gael ein dal yn ôl gan ein meddylfryd. Mae Lucy’n credu bod mynd ar drywydd perffeithrwydd yn un o'r pethau mwyaf niweidiol i feddylfryd, ac mae hi'n benderfynol o chwalu’r mythau sy'n ymwneud â pherffeithrwydd fel naill ai ffocws diniwed neu gadarnhaol yn ein bywydau.

 

Yn ystod y gweithdy hwn bydd Lucy’n trafod:

  • Nodwedd niweidiol perffeithiaeth a pham y dylem roi’r gorau iddo gynted â phosib!
  • Sut mae perffeithiaeth yn ein dal yn ôl ac yn ein hatal rhag cychwyn ar bethau.
  • Beth yw meddylfryd amherffeithydd a sut y gall ymwneud ag amherffeithiaeth arwain at fwy o lwyddiant?
  • Awgrymiadau ar gyfer amherffeithwyr neu berffeithwyr sy’n dod dros y cyflwr

Ymunwch yma: https://us02web.zoom.us/j/87635889907

***Bachwch docyn AM DDIM a chaiff y ddolen Zoom ei hanfon atoch y diwrnod cyn y gweithdy***

Mwy i ddod

Y Senedd
29th Ebrill
Picturehouse yr UM
Dathlu Aberystwyth: Chwaraeon a Chymdeithasau
1st Mai
Sy'n cydnabod ymroddiad myfyrwyr i'w clybiau chwaraeon a chymdeithasau cydnabod cyfraniadau cymdeithasol, cystadleuol a phroffesiynol.
Dathlu Aberystwyth: Addysgu, Dysgu A'r Profiad Myfyrwyr
2nd Mai
Ystafell Fawr Undeb Aberystwyth
Sy’n cefnogi arfer gorau drwy dynnu sylw at ragoriaeth addysgu a chydnabod cyfraniadau staff a myfyrwyr at brofiad y myfyrwyr.
Aber7s
4th-5th Mai
Blaendolau playing fields
Gofyn i fi: Hyfforddiant
11th Mai
Pantycelyn: Lolfa Fach
Roots Sesiynau: Cyfrol 4
25th Mai
Ystafell Fawr Undeb Aberystwyth
Digwyddiad Cerddoriaeth Reggae Roots

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576