Sut mae problemau oedi a chynhyrchedd yn gysylltiedig â thueddiad i hunan-ddifetha yn hytrach na diogi (a pham mai hunan-dosturi a hunan-ofal yw'r ateb) Gweithdy gan Lucy Orton

***Bachwch docyn AM DDIM a chaiff y ddolen Zoom ei hanfon atoch y diwrnod cyn y gweithdy***

Yn y sesiwn hon, bydd Lucy Orton, arbenigwr gwrth-hunan-ddifetha, podlediwr a hyfforddwr seicoleg gadarnhaol, yn siarad am y mythau a'r camddealltwriaeth

sy’n ymwneud â’r hyn sy'n ein gwneud ni'n gynhyrchiol.

Mae Lucy yn credu’n gryf mewn bod yn garedig â chi'ch hun, nodi pan fydd eich meddwl yn eich atal rhag cyrraedd eich nodau a'ch breuddwydion, ynghyd â chanolbwyntio ar ffyrdd o greu

arferion a bywyd sy'n gweithio DROSOCH chi, yn hytrach nag yn eich erbyn.

Yn ystod y sesiwn hon bydd Lucy’n trafod:

  • Sut mae myth cynhyrchiant yn ein niweidio ac yn gallu effeithio'n negyddol ar ein hunan-barch, ein meddylfryd A maint ac ansawdd y gwaith rydyn ni'n ei wneud.
  • Pam mae oedi’n cael y bai am ddiffyg cynhyrchedd, a sut nad yw fel arfer wrth wraidd pam nad ydym yn cyflawni pethau; yn hytrach mae'n symptom o elfennau eraill sydd ar waith.
  • Yr ochr gadarnhaol i oedi - sut weithiau gall yr hyn y gallwn ei ystyried yn oedi arwain at ein gwaith a'n syniadau gorau.

Ymunwch yma: https://us02web.zoom.us/j/88656056742

***Bachwch docyn AM DDIM a chaiff y ddolen Zoom ei hanfon atoch y diwrnod cyn y gweithdy***

Mwy i ddod

Gwasanaeth Cam-drim Domestig Gorllewin Cymru - Galwch ddraw
3rd Gorffennaf
Student Welcome Centre - Room 2.67
short desc?
Diwrnod Agored Prifysgol Aberystwyth
5th Gorffennaf
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth / Prifysgol Aberystwyth / Undeb Aberystwyth
short desc?
Wythnos Graddio
15th-17th Gorffennaf
Prifysgol Aberystwyth
short desc?

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576