'Lles emosiynol - Sut i ddatblygu ymateb iach i emosiynau negyddol sy'n codi ynoch chi'ch hun ac eraill.' Gweithdy gan Sam Thorne
***Bachwch docyn AM DDIM a chaiff y ddolen Zoom ei hanfon atoch y diwrnod cyn y gweithdy***
Mae athroniaeth iechyd Sam yn ymwneud â byw yn fwy meddylgar, fel ein bod yn cynyddu ein greddf ac yn dechrau gwneud dewisiadau gwell. Mae iechyd yn gelfyddyd oherwydd ei fod yn ymwneud â phob agwedd ar sut rydyn ni'n byw, symud, anadlu, cysylltu, bwyta.
Mae parodrwydd i dderbyn yn un o gonglfeini meddylfryd effeithiol, iach sy'n arwain at lesiant hir-dymor. Mae hefyd yn rhan sylfaenol o'r ffordd rydyn ni'n ymateb i'r byd allanol.
Bydd y gweithdy yn eich tywys trwy'r gwahanol lefelau o emosiynau a all godi, a sut y gallwn eu goresgyn o fewn ein hunain.
Gyda'r mewnwelediadau gwych hyn, gall pob unigolyn greu ei gynllun gweithredu ei hun er mwyn bod yn fwy parod i hunan-dderbyn, gan felly creu perthynas fwy cadarnhaol â nhw eu hunain.
Pan fyddwn yn gweithio gyda'r 3 maes sy’n ymwneud â derbyn; ein hemosiynau cyfredol, ein corff a'n hamgylchedd presennol, yna gallwn gyrchu gwell cyflwr o bresenoldeb tawel ac ymlacio. Mae hyn yn ei dro yn 'rhyddhau' mwy o egni wrth i ni ddechrau derbyn yr hyn na allwn ei reoli, ac yn hytrach canolbwyntio ein sylw ar yr hyn y gallwn ei reoli a'i newid yn ein bywydau.
Pan fyddwn ni'n dechrau deall ein hemosiynau ein hunain yn well, a sut maen nhw'n cyfateb i'r sefyllfa unigryw rydyn ni'n cael ein hunain ynddi, rydyn ni'n dechrau gweld bod eraill hefyd yn gwneud eu gorau i ddod o hyd i'w ffordd o fewn yr amgylchiadau maen nhw'n eu cael eu hunain ynddynt. Felly mae tosturi, llawenydd a charedigrwydd yn dechrau gyda gweithio arnom ni ein hunain, yna gallwn ganiatáu iddo lifo'n naturiol i eraill. Dewch i roi cynnig ar hyn drosoch eich hun!
Ymunwch yma: https://us02web.zoom.us/j/82159065764
***Bachwch docyn AM DDIM a chaiff y ddolen Zoom ei hanfon atoch y diwrnod cyn y gweithdy***