Gweithdy gan Clara Lee: Meithrin Hyder â’ch Arian

Book your ticket through our website to get the zoom link! 

Ydych chi'n cael trafferth â'ch arian? Yn teimlo fel bod eich arian yn diflannu mewn amrantiad? Ymunwch â'r gweithdy hwn i ddysgu am fy siwrnai bersonol o fenthyca'n gyson gan ffrindiau i ddod yn hyderus yn ariannol. 

Yn y sesiwn hon, byddaf yn darparu canllawiau ariannol; yn diffinio termau dryslyd fel ISA, gorddrafft a chardiau credyd; eich helpu i nodi meysydd lle rydych chi'n gorwario; a’ch darparu â rhai awgrymiadau ynghylch ble y gallech chi fod yn arbed arian. 

Yn olaf, byddaf yn cyflwyno fy nhaenlen gyllidebu sydd wedi'i chynllunio i'ch helpu i ddyrannu'ch arian at wahanol ddibenion a'ch galluogi i fynnu gwell rheolaeth ar eich arian. 

 

Amcanion Dysgu: Erbyn diwedd y sesiwn hyfforddi, byddwch: 

- Yn deall mwy am y gwahanol wasanaethau ariannol sy’n gallu gweithio orau i chi 

- Wedi dysgu am ymddygiad gwahanol bersonoliaethau tuag at arian a'r hyn y gallwch chi ei wneud i feithrin arferion gwell 

- Yn gwybod am ffyrdd o helpu i gwtogi ar eich gwariant 

- Yn gallu olrhain eich arian trwy ddefnyddio taenlen

Book your ticket through our website to get the zoom link! 

Mwy i ddod

Gwasanaeth Cam-drim Domestig Gorllewin Cymru - Galwch ddraw
3rd Gorffennaf
Student Welcome Centre - Room 2.67
short desc?
Diwrnod Agored Prifysgol Aberystwyth
5th Gorffennaf
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth / Prifysgol Aberystwyth / Undeb Aberystwyth
short desc?
Wythnos Graddio
15th-17th Gorffennaf
Prifysgol Aberystwyth
short desc?

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576