Clwb Ffilm Teimlo'n Dda– Fundamentals of Caring
Bob dydd Gwener rydyn ni am eich helpu i fod mewn hwyliau da ar ddechrau'r penwythnos. Rydyn ni i gyd eisiau gwylio ffilm sy’n mynd i roi gwên ar ein hwynebau, felly dros y deng wythnos nesaf, rydym wedi dewis deg o'n hoff ffilmiau o’r 21ain ganrif sy'n sicr o wneud i chi chwerthin yn ystod y cyfnod clo hwn.
Mae awdur (Paul Rudd) yn ymddeol ar ôl trasiedi bersonol ac yn dod yn ofalwr i fachgen anabl yn ei arddegau. Pan mae’r ddau yn cychwyn ar daith ffordd fyrfyfyr, mae eu gallu i ymdopi’n cael ei brofi wrth iddynt ddechrau deall pwysigrwydd gobaith a chyfeillgarwch.
Felly! Eisteddwch yn gyfforddus, estynwch eich blanced, mynnwch rywbeth i’w fwyta a’ch hoff ddiod a mwynhewch! Gwnewch yn siwr eich bod chi'n cofrestru er mwyn bod â siawns o ennill bwndel byrbrydau ar gyfer noson ffilm!