Sesiwn gynghori galw heibio ar 'Effeithiau Academaidd Covid'
Helo bawb!
Mae'n ganol mis Tachwedd, sy'n golygu ein bod ymhell i mewn i semester cyntaf yr hyn sydd heb amheuaeth yn flwyddyn academaidd anodd iawn.
Yn UMAber, rydym am i chi deimlo'n hyderus y byddwch yn dal i allu cyflawni eich gorau’n academaidd, er gwaethaf popeth sydd wedi newid eleni. Am y rheswm hwn, byddaf yn ymuno â'n cynghorydd profiadol yn yr UM, Molly, i gynnal sesiwn gynghori galw heibio ar 'Effeithiau Academaidd Covid' dydd Iau rhwng 10am - 12pm a rhwng 1pm - 3pm.
Mae'r sesiwn galw heibio hon ar gael i unrhyw fyfyrwyr sy’n teimlo eu bod yn cael trafferth arbennig eleni oherwydd effaith covid-19 ar eu dysgu, a darganfod beth yw eich opsiynau posibl ar gyfer cael cymorth ychwanegol.
P'un a oes angen help arnoch i ddeall sut i wneud cais am amgylchiadau arbennig, neu ddim ond angen clust i wrando, dewch i'n gweld, rydym am helpu!
https://us02web.zoom.us/j/958198562
Fe welwn ni chi yno! - Chloe (Swyddog Materion Academaidd)