At Home Scavanger Hunt - TickledPink CY
Bydd Tickled Pink yn cynnal helfa o amgylch eich ty/fflat i ddod o hyd i eitem benodol. Bydd yna sawl rownd gyda dwy eitem i bob rownd, gan ddefnyddio anagramau a phosau i bobl weithio allan beth yw'r eitemau. Y person sy'n dod yn ôl at yr alwad Zoom gyflymaf ar y nifer fwyaf o achlysuron fydd yn ennill gwobr, sef bag bach yn cynnwys eitemau sy'n hyrwyddo elusennau'r gymdeithas.
Sut i ymuno
Agorwch Zoom ar eich dyfais, a chliciwch ar y ddolen hon:
https://us02web.zoom.us/j/84481517191
Adnoddau cyfranogwyr
Dyfais ar gyfer rhedeg Zoom