Hystingau Etholiad Cyffredinol 2019
Ymunwch â ni am ddadl fywiog a chyfle i holi ymgeiswyr am y materion sydd o bwys i chi.
Bydd yn gyfle i hysbysu myfyrwyr am yr hyn y mae'r ymgeiswyr yn sefyll drosto, yn ogystal â chyfle i wleidyddion glywed lleisiau myfyrwyr, gan fod llawer yn teimlo eu bod nhw fel arfer allan o gyrraedd.
Ni chodir tâl mynediad ar gyfer y digwyddiad hwn ac mae’n agored i bawb.
Ar hyn o bryd, gallwn gadarnhau y bydd y pleidiau canlynol yn bresennol:
Y Blaid Werdd
Y Democratiaid Rhyddfrydol
Llafur Cymru
Ceidwadwyr Cymru
Plaid Cymru
Plaid Brexit
Cofiwch gofrestru i bleidleisio erbyn hanner nos, ddydd Mawrth 26ain Tachwedd yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.