Digwyddiad byw - University Challenge 2020
Nos Fawrth bydd ein cystadleuwyr yn rownd derfynol University Challenge 2020 yn mynd benben yn y cwis anoddaf un!
Maen nhw wedi wynebu ein treialon ac wedi dod i'r brig, a nawr mae'r cyfan yn dibynnu ar un noson, 2 seiniwr, a 3 myfyriwr peniog.
Dewch i gefnogi ein cystadleuwyr yn y rownd derfynol yn y Picture House nos Fawrth 19eg Tachwedd, am 7pm, lle byddwn o'r diwedd yn coroni ein tîm buddugol o dri, a fydd yn mynd ymlaen i gynrychioli Prifysgol Aberystwyth ar y sioe gwis enwog.