Hyfforddiant Cynorthwyydd Tywys Cymunedol

Cynorthwyydd Tywys Cymunedol yw aelod o’r cyhoedd sydd wedi cael ei hyfforddi i gynnig cymorth diogel i berson dall neu sydd â nam ar ei olwg, yn ystod eu bywyd bob dydd neu fel rhan o’u swydd.

Mae Tywys gan Gynorthwyydd yn dechneg gydnabyddedig a ddatblygwyd gan sefydliad y Cwn Tywys ac RNIB fel ffordd o helpu pobl sydd wedi colli eu golwg i symud o gwmpas y lle’n ddiogel.

Ni chodir tâl ar gyfer y cwrs, ac nid oes unrhyw ofynion amser y tu hwnt i’r cwrs ei hun; fodd bynnag, mae’n bosib y byddwch chi am symud ymlaen i’r lefel nesaf a bod yn Wirfoddolwr Tywys.

Ar ôl cyflwyno pawb, bydd cyfle i’r rheiny sy’n cymryd rhan i gael profiad o sut beth yw byw gyda gwahanol fathau o golli golwg. Wedyn byddant yn cael eu dysgu sut i gyfathrebu â rhywun sydd â nam ar ei olwg a’u tywys nhw’n ddiogel. Mae hyn yn cynnwys mynd drwy ddrysau, mynd i fyny ac i lawr grisiau, yn ogystal â mynd i mewn ac allan o geir a.y.b. Mae’r elfen hon o’r cwrs yn cynnwys ymarferion â mwgwd am eich llygaid, ac o’r herwydd mae angen i chi wisgo esgidiau synhwyrol.

Mae lleoedd wedi’u cyfyngu i 12 o bobl ar gyfer pob sesiwn.

Archebwch le nawr
 

Mwy i ddod

Y Senedd
29th Ebrill
Picturehouse yr UM
Dathlu Aberystwyth: Chwaraeon a Chymdeithasau
1st Mai
Sy'n cydnabod ymroddiad myfyrwyr i'w clybiau chwaraeon a chymdeithasau cydnabod cyfraniadau cymdeithasol, cystadleuol a phroffesiynol.
Dathlu Aberystwyth: Addysgu, Dysgu A'r Profiad Myfyrwyr
2nd Mai
Ystafell Fawr Undeb Aberystwyth
Sy’n cefnogi arfer gorau drwy dynnu sylw at ragoriaeth addysgu a chydnabod cyfraniadau staff a myfyrwyr at brofiad y myfyrwyr.
Aber7s
4th-5th Mai
Blaendolau playing fields
Gofyn i fi: Hyfforddiant
11th Mai
Pantycelyn: Lolfa Fach
Roots Sesiynau: Cyfrol 4
25th Mai
Ystafell Fawr Undeb Aberystwyth
Digwyddiad Cerddoriaeth Reggae Roots

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576