Delyth a Angharad
Mae'r deuawd mam a merch o Abertawe Delyth ac Angharad Jenkins, sy'n adnabyddus hefyd fel DnA, yn anadlu bywyd newydd i mewn i gerddoriaeth hynafol Cymru trwy eu hymgomion cartrefol a chymhellol ar y delyn a'r ffidil.
Mae'r ddwy wedi bod yn rheng flaen gwahanol genedlaethau o gerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru, trwy fandiau megis Calan ac Aberjaber. Trwy ymuno â'i gilydd i greu y deuawd mam a merch, mae DnA yn sefyll allan ar unwaith. Mae 'na gysylltiad unigryw rhwng y ddwy gerddores, yn sgil y berthynas deuluol arbennig honno.
Am fwy gwybodaeth, ewch i: https://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy/music/delyth-and-angharad