Rave Teulu
Cwmni BIg Fish Little Fish Cymru yn cyflwyno ‘Animal Fantastical’ gyda Bunf o’r Super Furry Animals ar y deciau. Gallwch ddisgwyl llanast ar y llawr dawns aml-synhwyraidd gyda balwns anferth, disgleirdeb a swigod a dawnsio parasiwt! Rhowch gynnig ar fod yn greadigol yn ein hystafell grefftau neu ymlaciwch yn yr ystafell chwarae gyda theganau meddal a phyllau peli. Fe’ch gwelwn chi ar y llawr dawns!
Am fwy gwybodaeth a tocynnau, ewch i: https://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy/family/family-rave