Mae Undeb y Myfyrwyr yn trefnu ac yn cyflwyno ystod o weithdai sydd wedi'u cynllunio i gynorthwyo llesiant myfyrwyr ar y campws.
Samariaid Sesiwn: Cymorth Cyfoedion - Gwrando Tosturiol
Mae’r Samariaid yn Aberystwyth yn cynnig sesiwn hyfforddi ar gyfer Cymorth Cyfoedion - Gwrando Tosturiol.
Mae'r Samariaid wedi darparu gwasanaeth gwrando i bobl sydd mewn trallod ac anobaith ers dros 60 mlynedd. Mae partneriaethau llwyddiannus â Network Rail, Gwasanaeth y Carchardai a llawer o sefydliadau eraill, wedi arwain at hyfforddi miloedd o bobl ar sut i siarad â phobl mewn trallod, hynny ar sail model profedig.
Mae'r hyfforddiant, sydd i’w gynnal dydd Sadwrn 5 Rhagfyr 2020 am 11am, yn para am 3 awr, a bydd yn gymysgedd hwyliog o sgiliau ymarferol a gwaith grwp.
Mae'r sgiliau a gaiff eu dysgu’n rhoi'r hyder i chi gynnig cymorth i rywun, hyd yn oed dieithryn. Gellir eu defnyddio hefyd i wella perthnasoedd yn y gwaith, gyda ffrindiau neu gartref.
Bydd y sesiwn yn dangos i chi sut i:
- Darparu lle diogel diduedd ac anfeirniadol, gan helpu'r unigolyn i archwilio'r hyn sy'n digwydd ac, os yw'n briodol, beth yw'r opsiynau.
- Eu helpu nhw i ddod o hyd i'w ffordd eu hunain yn hytrach na darparu cyngor neu atebion.
- Cyfleu cydymdeimlad, fel eu bod yn teimlo bod rhywun yn deall sut beth yw bod yn eu sefyllfa nhw.
I archebu lle yn yr hyfforddiant, cliciwch y ddolen isod.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
Join Zoom Meeting: https://us02web.zoom.us/j/89493508974?pwd=RVdIbDJVc1FsZGw4bUpWREcvTldZdz09
Y Samariaid:
Symudol: 07811 823775 | E-bost: Ana.laing@samaritans.org | Gwe: http://www.samaritans.org
Facebook: www.facebook.com/samaritanscharity | Twitter: www.twitter.com/samaritans
Hyfforddiant Sgiliau Gwydnwch
Mae gwydnwch emosiynol yn amddiffyniad sylweddol yn erbyn datblygu problemau iechyd meddwl megis iselder a gorbryder. Gall bywyd y Brifysgol fod yn hynod o heriol ac mae'n hanfodol bod myfyrwyr yn cael eu darparu â'r sgiliau angenrheidiol i amddiffyn eu hiechyd meddwl mewn cyfnod o drallod.
Mae'r hyfforddiant hwn yn ystyried beth yw gwydnwch a pham ei fod yn bwysig; mae hefyd yn rhoi i'r rhai sy’n cymryd rhan y sgiliau angenrheidiol i gryfhau a gwella eu gwydnwch emosiynol.
I drefnu lle ar sesiwn hyfforddi, cliciwch ar y ddolen isod am y dyddiad rydych chi am fynychu.
Mae'r hyfforddiant hwn yn rhan o gais llwyddiannus gan Undeb y Myfyrwyr i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gyflwyno Hyfforddiant Sgiliau Atal Hunanladdiad a Gwydnwch ar draws y campws.
Hyfforddiant Atal Hunanladdiad
Nid yw tri chwarter yr holl bobl sy'n cyflawni hunanladdiad mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl na chymorth yn ystod y flwyddyn sy'n arwain at eu marwolaeth. Mae yna lawer o rwystrau sy’n atal pobl rhag gofyn am help - gan gynnwys ofn cael eu gwrthod, diffyg gwybodaeth am sut i gael gafael ar gymorth priodol, ofnau ynglyn â’r canlyniadau o ran perthnasoedd personol a'r effaith negyddol ar yrfa prifysgol.
Mae yna hefyd rwystrau sylweddol i helpu rhywun sydd mewn perygl cynyddol o ladd ei hun - methu adnabod yr arwyddion, ddim yn gwybod beth i'w ddweud, ofn gwneud pethau'n waeth a ddim yn gwybod sut i helpu - mae’r rhain yn aml yn cael eu crybwyll fel rhesymau pam na wnaeth rhywun weithredu.
Mae'r hyfforddiant hwn yn rhoi sylw i’r camau ymarferol y gellir eu cymryd i leihau'r risg o hunanladdiad, arwyddion posibl y gallai rhywun fod mewn perygl a sut i gysylltu ag eraill yn effeithiol i helpu.
I drefnu lle ar sesiwn hyfforddi, cliciwch ar y ddolen isod am y dyddiad rydych chi am fynychu.
Mae'r hyfforddiant hwn yn rhan o gais llwyddiannus gan Undeb y Myfyrwyr i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gyflwyno Hyfforddiant Sgiliau Atal Hunanladdiad a Gwydnwch ar draws y campws.
Ymwybyddiaeth a Hyfforddiant GamCare
Mae gamblo problemus yn weithgaredd cymhleth ac aml-ddimensiwn, ac mae'r amgylchiadau sy'n gwneud rhywun yn dueddol o ddatblygu problem hap-chwarae yn gallu bod yn amlochrog, a byddant yn dibynnu ar y rhan y mae gamblo yn ei chwarae yn eu bywyd.
Mae hyfforddiant GamCare wedi'i gynllunio'n benodol i wneud y canlynol:
- Gwella dealltwriaeth o hap-chwarae a’r seicoleg sy’n perthyn i ymddygiad gamblo problemus
- Cynyddu ymwybyddiaeth o effaith gymdeithasol hap-chwarae a gamblo problemus
- Darparu'r sgiliau angenrheidiol i fynd i'r afael ag anghenion y rhai y mae gamblo problemus yn effeithio'n niweidiol arnynt
Mae ein rhaglenni hyfforddiant yn rhyngweithiol ac yn adeiladu ar ddealltwriaeth a sgiliau'r dysgwyr. Maent i gyd wedi'u cynllunio a'u cyflwyno gan hyfforddwyr profiadol sydd â phrofiad clinigol o weithio gyda'r rhai y mae gamblo problemus yn effeithio'n andwyol arnynt. Mae'r cyfuniad hwn o brofiad ac arbenigedd yn sicrhau bod ein hyfforddiant o'r ansawdd uchaf ac yn hyrwyddo rhagoriaeth wrth gynnig cymorth i'r rhai y mae niwed sy'n gysylltiedig â gamblo yn effeithio arnynt.
Mae'r sesiwn yma yn cael ei gynnal gan GamCare.
I drefnu lle ar sesiwn hyfforddi, cliciwch ar y ddolen isod am y dyddiad rydych chi am fynychu.
Hyfforddiant Cynorthwyydd Tywys Cymunedol
Cynorthwyydd Tywys Cymunedol yw aelod o’r cyhoedd sydd wedi cael ei hyfforddi i gynnig cymorth diogel i berson dall neu sydd â nam ar ei olwg, yn ystod eu bywyd bob dydd neu fel rhan o’u swydd.
Mae Tywys gan Gynorthwyydd yn dechneg gydnabyddedig a ddatblygwyd gan sefydliad y Cwn Tywys ac RNIB fel ffordd o helpu pobl sydd wedi colli eu golwg i symud o gwmpas y lle’n ddiogel.
Ni chodir tâl ar gyfer y cwrs, ac nid oes unrhyw ofynion amser y tu hwnt i’r cwrs ei hun; fodd bynnag, mae’n bosib y byddwch chi am symud ymlaen i’r lefel nesaf a bod yn Wirfoddolwr Tywys.
Mae lleoedd wedi’u cyfyngu i 12 o bobl ar gyfer pob sesiwn.
I drefnu lle ar sesiwn hyfforddi, cliciwch ar y ddolen isod am y dyddiad rydych chi am fynychu.
Hyfforddiant Gwyliedydd Gweithredol
Bydd traean o fyfyrwragedd ym Mhrifysgolion y DU yn cael profiad o ymosodiad neu gam-driniaeth rywiol tra byddant yn astudio; dim ond un o bob wyth o ddynion sy’n dioddef ymddygiad rhywiol digroeso. Gan weithio gyda Chymorth i Fenywod Cymru byddwn yn cynnal cwrs hyfforddi ac ymwybyddiaeth ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a gynhelir dros dair wythnos yn olynol.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn helpu myfyrwyr i ddynodi beth yw aflonyddu a cham-drin rhywiol, ac yn rhoi'r sgiliau a'r hyder iddynt i ymateb yn briodol. Mae hefyd yn rhoi sylw i newid normau diwylliannol sy'n goddef rhywiaeth ac aflonyddu.
I drefnu lle ar sesiwn hyfforddi, cliciwch ar y ddolen isod am y dyddiad rydych chi am fynychu.
Caiff yr hyfforddiant hwn ei gyflwyno mewn partneriaeth â Chymorth i Fenywod Cymru.
Hyfforddiant Cydsyniad
Mae dysgu pobl am gydsyniad yn eu galluogi i gael profiadau rhywiol mwy diogel, moesegol a phleserus.
Mae cwrs pedair-rhan Brook yn eich helpu chi i ddeall y gyfraith, y normau rhywedd, ystrydebau a ffactorau diwylliannol a allai effeithio ar allu rhywun i gydsynio, ac mae'n cynorthwyo pobl i gyfathrebu am gydsyniad gyda'u cymar.
Datblygwyd modiwl cydsyniad Brook fel rhan o brosiect ar y cyd â Phrifysgol Sussex, ac mae'n seiliedig ar ymchwil gwreiddiol ar gyfer doethuriaeth gan Elsie Whittington.
Gweithiodd Elsie yn helaeth gyda phobl ifanc i ymchwilio i'r hyn yr oeddent yn ei ddeall am gydsyniad ac i ddeall realiti eu profiadau rhywiol eu hunain. Mae'r canlyniad yn cynnwys y Continwwm Cydsyniad arloesol, ynghyd â chyfres o weithgareddau profedig a ddatblygwyd gan Elsie fel rhan o'i gwaith.
Rhennir y cwrs hwn yn bedwar modiwl:
- Ystyr cydsyniad
- Mythau a'r gyfraith
- Y Continwwm Cydsyniad
- Cyfathrebu cydsyniad
Mae pob modiwl yn darparu ystod o adnoddau o ansawdd uchel, y gellir eu lawrlwytho; gallwch eu defnyddio i ddeall gwahanol agweddau ar gydsyniad.
Rhennir pob modiwl yn:
Ei ddysgu: Archwilio a deall agweddau penodol ar gydsyniad i chi'ch hun
Ei addysgu: Eich darparu â phopeth sydd ei angen arnoch i drafod cydsyniad gydag eraill
Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw creu cyfrif ar Brook Learn ac i ffwrdd â chi. Ewch yma i gael gwybod mwy: Brook Learn Consent.