Bywyd ar ôl y Brifysgol
Rydych chi wedi treulio'r tair blynedd (neu fwy) diwethaf yn gweithio'n galed (ac efallai'n partïo'n galetach) ac o'r diwedd wedi cael eich gradd. Mae’n bryd i chi daflu'ch mortarboard i’r awyr a ffarwelio â'r darlithfeydd, bar y campws, a'r fflat myfyrwyr rydych chi wedi'i alw'n gartref. Rydych chi newydd gael rhai o flynyddoedd gorau eich bywyd (gobeithio) a nawr mae'n bryd mynd allan i'r byd mawr a gosod eich stamp arno.
- Osgoi’r Felan ar ôl Graddio Mae iselder ar ôl gadael y brifysgol ar gynnydd, ac eto, mae llawer o raddedigion yn ei chael hi'n anodd siarad am y peth. Pwysleisiodd llefarydd ar ran Cymdeithas Gwnsela a Seicotherapi Prydain fod y teimladau hyn yn hynod gyffredin, ac na ddylai unrhyw un eu hofni na theimlo cywilydd o’r herwydd; ond nad yw hynny'n golygu bod yn rhaid i chi oddef y cyflwr. Y gwir yw nad oes rhaid i'r hwyl ddod i ben yn y brifysgol; os rhywbeth mae bywyd yn mynd i wella, gan y cewch chi gyfle i ddod i adnabod pobl newydd a phrofi gwahanol bethau mewn bywyd. Er mwyn osgoi teimlo'n isel eich ysbryd, trefnwch rywbeth cyffrous y gallwch chi edrych ymlaen ato unwaith yr wythnos.
- Dod o hyd i’ch Angerdd Rydych chi newydd raddio gyda gradd mewn pwnc penodol ac wedi sylweddoli nad ydych chi mewn gwirionedd am ddilyn y llwybr gyrfa hwnnw. Peidiwch â theimlo’n euog - mae yna lawer o raddedigion nad ydyn nhw’n mynd i weithio mewn maes sy’n ymwneud â’u gradd. Y peth pwysig yw dod o hyd i ble mae'ch angerdd a dewis swydd sy'n rhoi ystyr i chi. Mae llawer o fyfyrwyr ifanc yn mynd ar ôl y cyflog gorau, ond byddwch chi bob amser eisiau mwy, a byddwch chi'n siwr o fod yn ddiflas yn y broses.
- Clirio Eich Dyled Dydw i ddim yn sôn am eich benthyciad myfyriwr (bydd hwnnw'n cael ei dynnu'n uniongyrchol o'ch cyflog unwaith y byddwch chi’n ennill swm penodol). Yr hyn yr wyf yn ei olygu yw unrhyw ddyledion eraill neu filiau sy’n ymwneud â’ch cartref, sy'n dal i fod yn eich enw chi. Y peth olaf y byddech chi ei eisiau yw casglwyr dyledion yn curo ar ddrws eich rhieni oherwydd bil trydan y gwnaethoch chi anghofio ei dalu.
- Peidio â Chymharu eich hun ag Eraill. Fe wnaethoch chi weithio’n galed yn y brifysgol, ond llwyddodd Becky, a gyrhaeddodd yn hwyr, a sgrolio trwy ei chyfrif Instagram yn ystod darlithoedd, i gael gafael ar swydd yn un o’r cwmnïau mawr. Rydych chi'n teimlo'n ddigalon ac yn ddig tuag at Becky. Peidiwch â chymharu'ch hun ag eraill; mae'n wastraff amser llwyr a bydd yn sicr o achosi problemau i chi. Yn hytrach, canolbwyntiwch ar eich ymdrechion eich hun i ddod o hyd i waith, a sut y gallwch chi gael gafael ar eich swydd ddelfrydol.
Felly beth yw fy opsiynau ar ôl y Brifysgol?
Gall camu allan o’ch ardal gysur yn y brifysgol fod yn frawychus i unrhyw un; am sawl blwyddyn bellach rydych chi wedi gwybod beth i'w ddisgwyl bob cam o'r ffordd, a’r gobaith yw eich bod wedi cael arweiniad a chefnogaeth trwy gydol y cyfnod hwnnw.
Mae'n debyg eich bod yn pendroni ble i ddechrau a sut i fynd i'r afael â'r byd a defnyddio'r holl wybodaeth rydych wedi'i dysgu. Wel, rydyn ni wedi llunio rhai opsiynau posib y gallech chi eu hystyried i'ch annog i feddwl pa lwybr rydych chi am ei gymryd ar ôl y Brifysgol.
Mynnwch Swydd i Raddedigion
Os ydych chi'n awyddus i wynebu byd gwaith, dylech ddechrau chwilio a gwneud cais am swydd i raddedigion; er bod y gystadleuaeth yn ffyrnig; mae'r rolau hyn wedi'u cynllunio ar gyfer pobl fel chi, sydd newydd gwblhau eu haddysg.
Byddwch yn Hunangyflogedig
Mae hon yn risg i'w chymryd, ond mae’n debyg mai ar ôl graddio yw’r amser gorau i roi cynnig ar hyn, gan nad oes gennych chi unrhyw beth i'w golli. Rydych chi ar eich gorau gyda syniadau ffres a llwyth o hyder; efallai eich bod hefyd wedi bod yn graff ac wedi llwyddo i gynilo rhan o'ch benthyciad myfyriwr i ariannu'ch syniad gwych. Ar y llaw arall, os bydd hyn yn methu, byddwch wedi dysgu sgiliau trosglwyddadwy gwych a fydd yn eich helpu i sicrhau swydd werth ei chael, ac yn llythrennol, os ydych chi ar y gwaelod, dim ond symud i fyny y gallwch chi ei wneud.
Gall graddedigion sy'n ceisio troi syniadau busnes yn realiti gael mynediad at raglen lawn o ddigwyddiadau menter a drefnir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd o dan faner AberPreneurs, sy'n cynnwys cystadleuaeth boblogaidd InvEnterPrize ar gyfer syniadau myfyrwyr
Dewch o Hyd i Interniaeth
Mae interniaethau yn ffordd wych o gael mynediad i fyd gwaith. Gallant eich helpu i gael troed yn y drws yn eich hoff sefydliad, a byddant yn dysgu llwyth o bethau i chi am y diwydiant a'r sgiliau sydd eu hangen. (Yr unig anfantais yw bod mwyafrif y lleoliadau yn ddi-dâl, felly os na allwch chi fforddio peidio ag ennill cyflog, efallai na fydd yr opsiwn hwn yn addas i chi.)
Gallech fod yn gymwys i wneud cais am un o'n interniaethau YmlaenAber - mae galw uchel am y rhain.
Ystyriwch astudiaeth bellach
Os nad ydych chi'n barod i adael cysur bywyd y brifysgol ac am barhau i astudio, beth am ystyried cymhwyster ôl-raddedig? Gwnewch yn siwr eich bod chi'n dewis pwnc a fydd yn gwella'ch cyflogadwyedd ac a fydd yn dysgu sgiliau i chi nad ydych chi wedi'u dysgu eisoes fel rhan o’ch gradd.
Cymerwch Flwyddyn Allan a Mynd i Deithio
Os ydych chi wedi breuddwydio ers blynyddoedd am deithio o amgylch De America gyda’ch pecyn ar eich cefn, neu deithio i Awstralia, nawr yw'r amser i'w wneud hynny. Unwaith y byddwch chi wedi arwyddo contract gweithio, bydd gennych chi 25 diwrnod (ar y mwyaf) i deithio; dim digon o amser mewn gwirionedd i groesi ffiniau. Mae hwn yn brofiad unwaith-mewn-oes, felly peidiwch â'i ohirio os oes gennych chi’r amser a'r adnoddau.
Symud yn Ôl Gartref
Ar ôl treulio tair blynedd neu fwy yn byw ar eich pen eich hun, gall y syniad o symud yn ôl gartref fod yn eithaf anodd. Mae yna lawer o fanteision hefyd; bwyd wedi'i goginio gartref, cwmni cyson a byddwch hefyd yn gallu cynilo arian ar gyfer prynu eich lle eich hun. Os yw hwn yn opsiwn na allwch ei wynebu mewn gwirionedd; cynlluniwch strategaeth ar gyfer ymadael, gan osod dyddiad pendant i chi'ch hun o ran pa mor hir rydych chi am aros yno.
Mynnwch Swydd Ran-amser
Dywed rhai “mae'n haws cael swydd arall unwaith y byddwch chi mewn un; rydych chi eisoes wedi'ch cyflogi”. Gall hyn fod oherwydd eich bod eisoes yn y byd gwaith a bod gennych yr hyder i siarad am y sgiliau meddal rydych chi wedi'u dysgu y gellir eu trosglwyddo i'r swydd newydd. Mae’n syniad da cael gafael unrhyw swydd ran-amser yn syth allan o'r brifysgol; hyd yn oed os mai dim ond gwaith bar ydyw i'ch cael chi i mewn i fyd gwaith ac i roi ychydig o arian ychwanegol yn eich poced.
Caru'r syniad o deithio ac ennill arian? Beth am ystyried gweithio dramor?
Os ydych chi wrth eich bodd yn teithio ac yn ysu am anturiaethau newydd - beth am weithio dramor? Mae yna gwmnïau sy'n cynnig cynlluniau gweithio dramor; mae'n hysbys bod cwmnïau fel Apple yn noddi myfyrwyr rhyngwladol, felly fe allech chi ystyried gwneud cais am interniaeth gyda nhw.
Beth ddylwn i feddwl amdano wrth adael y Brifysgol?
Felly mae gennych chi syniad o'r hyn rydych chi am ei ystyried uchod, ond peidiwch ag anghofio'r pethau pwysig isod - bydd cofio a gweithredu'r pwyntiau isod yn eich helpu chi yn y tymor hir!
- Peidiwch â Cholli eich Buddion fel Myfyriwr Un peth gwych am fod yn fyfyriwr yw'r disgowntiau, iawn? Mae'r rhan fwyaf o siopau dillad, bwytai a hyd yn oed sinemâu yn cynnig gostyngiadau i fyfyrwyr. Y newyddion da yw nad oes raid i chi ffarwelio â’ch gostyngiad myfyrwyr mwyach, gan fod yna lawer o gynlluniau ar waith a fydd yn eich helpu i siopa a gwario llai. Beth am fanteisio ar eich blwyddyn olaf yn y brifysgol a phrynu cerdyn 3 blynedd gyda Totum, am gyn lleied â £24.99 er mwyn i chi gael y blynyddoedd ychwanegol hynny o ostyngiadau myfyrwyr pan fyddwch chi'n graddio!
- Agorwch Gyfrif Graddedigion Er bod rhai cyfrifon banc myfyrwyr yn trosglwyddo'n awtomatig i gyfrif graddedigion ac yn anrhydeddu'r llog 0% am beth amser, nid yw eraill yn gwneud hynny. Mae angen i chi fod yn barod am hyn a darllen eich dogfennau; mae yna lawer o gyfrifon banc ar gyfer graddedigion a all gynnig telerau da i chi nes i chi gael eich hun ar eich traed.
- Cynilwch Rywfaint o Arian Rwy'n gwybod eich bod chi'n meddwl “sut alla i gynilo pan fo gen i gymaint o ddyled?!” y gwir yw eich bod, yn fwy na thebyg, yn gwario o leiaf £20 ar bethau amherthnasol bob mis. Yn hytrach na thaflu'r arian hwnnw i ffwrdd, rhowch ef mewn ISA gan ychwanegu at y swm pan allwch chi. Byddwch chi'n synnu faint o arian fydd gennych chi wedi’i roi heibio ymhen ychydig flynyddoedd.
- Dechreuwch o'r Gwaelod Er eich bod wedi cael blynyddoedd o addysg, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu eich bod yn sicr i ganfod swydd yn syth ar ôl i chi adael y brifysgol. Mae miloedd o fyfyrwyr yn graddio ledled y DU bob blwyddyn, sy'n golygu bod y farchnad swyddi hyd yn oed yn fwy cystadleuol, ac y bydd yn rhaid i chi weithio'n galed iawn i sicrhau swydd i chi'ch hun. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch chi'n dechrau mewn swydd lefel mynediad ac yn gweithio'ch ffordd i fyny'r ysgol yrfa gan ennill blynyddoedd o brofiad wrth weithio'ch ffordd i fyny.
- Gwnewch rai Arbedion Ydych chi'n mynd heibio Starbucks pan fyddwch chi allan yn rhedeg yn y bore ac yn prynu latte i chi’ch hun? Os felly, buddsoddwch mewn peiriant coffi a gwnewch eich coffi gartref. Gydag ychydig o newidiadau bach, byddwch chi'n synnu faint o arian y gallwch chi ei arbed.
- Gwerthwch y pethau nad oes eu hangen arnoch mwyach Oes gennych chi lawer o ddillad o'ch cyfnod yn y brifysgol na fyddech chi’n ystyried eu gwisgo nawr eich bod chi gartref? Trefnwch sêl cist car neu gwerthwch nhw ar eBay, Facebook Marketplace, Vinted neu Depop.
- Dylech Fod yn Gwybod beth yw eich Gwerth Er eich bod yn ysu am gael swydd, yn enwedig yn y maes o'ch dewis, mae angen i chi wybod beth yw eich gwerth. Peidiwch â gwerthu'ch hun yn brin oherwydd rydych chi wir eisiau'r swydd sydd dan sylw. Gwnewch eich ymchwil i ganfod beth yw'r cyflog cyfartalog; gallwch wedyn seilio hyn ar eich profiad hefyd. Os oes gennych chi brofiad o interniaeth a fydd yn eich gosod ar wahân i'r gweddill, peidiwch â bod ofn tynnu sylw at hynny.
- Gwnewch ymarfer corff Ni fydd hyn yn eich helpu chi’n uniongyrchol wrth chwilio am swydd; ond bydd yn bendant o gymorth i'ch meddylfryd. Mae ymarfer corff yn helpu i roi hwb i'ch egni ac i ymlacio'ch meddwl a'ch corff. Bydd o gymorth o ran colli pwysau neu fagu cyhyrau, a fydd yn ei dro yn gwneud i chi deimlo'n dda amdanoch chi'ch hun. Er mwyn cadw rheolaeth ar unrhyw straen, ewch ar gefn beic neu ewch i gerdded bob dydd i gael eich calon i guro’n gyflymach ac annog endorffinau.
- Rheolwch eich Patrwm Cysgu Er y gallech chi ymdopi â nosweithiau hwyr yn y brifysgol, byddai’n syniad i chi ddod i arfer mynd i’r gwely ar amser rhesymol. Rhowch y gorau i wylio Netflix am oriau ar y tro a dewch i arfer mynd i'r gwely cyn hanner-nos. Pan fyddwch chi'n cael gafael ar swydd, ni fydd gorfod codi am 6am yn rhy erchyll wedyn.
Cofiwch ein bod ni'n dal yma i chi ar ôl i chi raddio
Pa bynnag yrfa fyddwch chi’n ei dewis, gall Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol eich helpu i gydnabod eich cryfderau ac archwilio ystod eang o gyfleoedd, fel eich bod yn gwneud penderfyniadau gwybodus am eich dyfodol.
Mae'r gefnogaeth hon ar gael trwy gydol eich amser yma fel myfyriwr ac ar ôl i chi raddio!