6 -Byddwch yn fersiwn orau ohonoch chi'ch hun

Byddwch yn fersiwn orau ohonoch chi'ch hun 

 

Beth mae'n ei olygu i fod y fersiwn orau ohonoch chi'ch hun? A yw'n golygu gwireddu eich potensial - neu a oes mwy iddo? Os ydych chi fel y mwyafrif o bobl, dyma'r cwestiynau rydych chi wedi pendroni yn eu cylch wrth i chi chwilio am hunaniaeth, hyder a chyflawniad mewn bywyd. 

Pan fydd yr atebion rydych yn eu canfod ddim cystal â'ch disgwyliadau, mae angen i chi ddechrau gofyn y cwestiynau pwysig iawn sy'n eich arwain i ddeall sut i gynyddu eich twf personol i'r eithaf a bod yn fersiwn orau ohonoch chi'ch hun. 

Yn y blog hwn rydyn ni’n edrych yn fanwl ar sut y gallwch chi ddechrau gwneud newidiadau bach yn eich bywyd ar hyn o bryd, er mwyn eich helpu chi i ddechrau adeiladu'r fersiwn orau ohonoch chi! 


Beth mae'n ei olygu i 'fod y fersiwn orau ohonoch chi'ch hun’?

Mae'r datganiad yn cael ei daflu o gwmpas yn aml wrth ddarllen trwy flogiau ynghylch magu hyder, ond beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd? 

Mae bod y fersiwn orau ohonoch chi'ch hun yn golygu mynd yn ôl at eich hunaniaeth hanfodol. Er bod hynny’n swnio’n ddigon syml, nid felly mae pethau: Mae hunan-ddarganfod gwirioneddol yn cymryd dewrder a dycnwch. Er mwyn mynd at eich hunaniaeth hanfodol, rhaid i chi droi eich cefn ar gredoau ffug sy'n cymylu neu'n gwyrdroi eich hunan-ganfyddiad. 

(Os ydych chi'n teimlo'n bryderus ynghylch hunan-welliant, cofiwch; mae pawb yn hollol unigryw. Ni all llwybr bywyd rhywun arall fod yn feincnod ar gyfer eich llwyddiant chi; mae gan bobl eraill eu breuddwydion, eu hangerdd a’u sgiliau eu hunain. Hefyd nid oes map-ffordd na chanlyniad delfrydol mewn bywyd, oherwydd mae gan bawb eu llwybr unigryw eu hunain.)

 

Ailddarganfod y 'chi go-iawn'

Cyn y gallwch chi ddechrau adeiladu'r fersiwn orau ohonoch chi'ch hun, mae angen i chi ddatgelu sylfeini'r hyn sydd yn ei hanfod yn eich gwneud chi yn chi. Sylfeini fel eich gwerthoedd, eich diddordebau a'ch angerdd sy'n diffinio pwy ydych chi a ble rydych chi'n gosod eich hun yn y byd. 

Gallwch geisio eistedd o flaen drych a gofyn i chi'ch hun: 

  • Pa weithgareddau ydych chi'n eu mwynhau? 
  • Pwy ydych chi'n mwynhau treulio amser yn eu cwmni? 
  • Pa effaith ydych chi am ei chael ar y byd? 
  • Beth yw eich atgof hapusaf? 

(Byddwch yn ddiffuant ac yn onest yn eich atebion!) 

Wrth i chi ofyn y cwestiynau hyn i chi'ch hun, rhowch sylw i'r ffordd rydych chi'n teimlo; os ydych chi'n sylwi ar emosiynau negyddol fel pryder neu ddicter, rydych chi'n anfon negeseuon negyddol atoch chi'n hun sy'n cuddio'r sgwrs. 

 

Nawr, gadewch i ni gloddio'n ddyfnach i'r hyn sy'n sbarduno'r teimladau hynny;

  • Ydych chi'n ofni y byddwch chi'n methu wrth geisio dod o hyd i'ch hun? 
  • Ydych chi'n ofni'r hyn y byddwch chi'n ei ddarganfod pan fyddwch chi'n cloddio'n ddwfn?

Mae mor hawdd ac yn demtasiwn teimlo'n annigonol; y gwir yw bod pob un ohonom yn hollol gyflawn yn union fel yr ydym ni. Mae cysylltu â'ch hunaniaeth hanfodol yn y pen draw yn eich rhyddhau rhag rhwystrau, ac yn eich caniatáu i fod y fersiwn orau ohonoch chi'ch hun. 

Sut mae modd i chi fod y fersiwn orau ohonoch chi'ch hun? 

Ar ôl i chi ddod i adnabod y person rydych chi am fod, gallwch chi gynllunio sut i fod y fersiwn orau ohonoch chi'ch hun.


Dechreuwch gyda'r diwedd mewn golwg - y fersiwn ddelfrydol ohonoch chi eich hun - a dechreuwch gymryd camau pendant i gyrraedd yno; darllenwch ymlaen am 12 cam ar sut i ddechrau gwella'ch hun. 

 

1. Dysgwch ollwng credoau sy’n eich cyfyngu

Rydych chi'n gwybod pwy ydych chi - ond a ydych chi'n gwybod pwy y  gallech chi fod? Mae'r rhan fwyaf ohonom yn cael ein dal yn ôl gan gredoau sy’n ein  cyfyngu: syniadau anghywir sydd gennym amdanom ein hunain. Trwy ddysgu adnabod a gollwng pa bynnag gredoau cyfyngol sy'n eich cadw rhag bod y fersiwn orau ohonoch chi'ch hun, gallwch chi wthio ymlaen a dod o hyd i'r person rydych chi mewn gwirionedd. 

2. Amlygwch eich cryfderau

Canolbwyntiwch ar eich cryfderau a byddwch yn dod yn gryfach fyth yn y meysydd hynny, gan ddod yn fwy o chi eich hun wrth wneud hynny. Mae canolbwyntio ar eich cryfderau hefyd yn hanfodol pan fyddwch chi'n wynebu rhwystrau - sy’n anochel - mae hyn yn digwydd i ni i gyd, mae’n normal. Pan fyddwch chi’n amlygu eich cryfderau, byddwch chi'n cofio'r hyn sydd gennych chi i’w gyfrannu, a byddwch chi'n chwalu'r rhwystrau sydd yn eich llwybr.

3. Datblygwch feddylfryd twf

Nid oes unrhyw un yn gryfderau i gyd. Mae gan bob un ohonom faterion personol sydd angen sylw os ydych chi eisiau bod y fersiwn orau ohonoch chi'ch hun. Mae pobl lwyddiannus yn mynd i'r afael â hyn trwy fod â meddylfryd twf (Mae meddylfryd twf yn golygu eich bod chi'n mwynhau ymgymryd â heriau newydd. Rydych chi'n barod i wneud y gwaith sydd ei angen i feithrin sgiliau newydd neu gynyddu eich deallusrwydd.). Maent yn credu nad oes y fath beth â gwendidau. Dim ond cyfleoedd i wella. Yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn maen nhw'n ei wneud yn wael, maen nhw'n canolbwyntio ar sut y gallan nhw wella - a gweithredu i gyrraedd y nod.

4. Taflwch allan ddisgwyliadau gosod

Mae'r hyn rydych chi'n ei gredu yn creu eich barn bersonol chi am y byd, ond yn anffodus, weithiau nid ein credoau ni yw’r rhain. Fel y rhan fwyaf ohonom, rydych chi wedi adeiladu o leiaf ran o'ch hunaniaeth yn seiliedig ar ddisgwyliadau pobl eraill. Mae'r broses o fewnoli gwerthoedd pobl eraill yn rhywbeth rydym yn ei wneud yn anymwybodol, ac mae bod yn ymwybodol o hyn yn hanfodol i ddysgu sut i fod y fersiwn orau ohonoch chi'ch hun. Rhaid i chi feddiannu eich gweledigaeth ar gyfer pwy rydych chi am fod - felly byddwch yn berchen ar bwy rydych chi am fod a pheidiwch â chael eich dylanwadu gan farn pobl eraill!

5. Byddwch yn barod i roi heibio’ch hen hunaniaeth

Pan fyddwch chi'n benderfynol o ddod o hyd i'ch hunan delfrydol, rydych chi i bob pwrpas yn codi'r bar - i chi'ch hun a'r bobl rydych chi'n eu hadnabod. Bydd eich “hen hunan” yn gwrthsefyll hyn oherwydd teimladau o ansicrwydd ac ofn yr hyn sy’n anghyfarwydd. Ceisiwch wrthwynebu’r ysfa i lynu wrth y cyfarwydd - yr hunaniaeth sydd wedi bod yn eich dal yn ôl - a bod yn barod i dderbyn agwedd newydd bositif

6. Ceisiwch ddofi eich ofnau

Mae ofn yn elyn llechwraidd sy'n dwyn ein dewrder mewnol ac yn tynnu ein sylw oddi wrth y presennol. Mae’n bosib dofi eich ofnau, ac mae hynny'n angenrheidiol i wella'ch hun. Pan fyddwch chi’n teimlo'n bryderus, ceisiwch ganfod yr hyn rydych chi'n ofnus yn ei gylch ac ysgrifennwch nodyn o hynny. Yna, ysgrifennwch esboniad arall sy'n llai brawychus, ond sy’n dal i fod yn realistig. Hyd yn oed os nad yw'ch teimladau'n newid ar unwaith, bydd eich meddwl yn cofrestru'r rhesymeg. Ymhen amser, mae'r broses o wirio’r ffeithiau sydd y tu ôl i’ch ofnau yn dod yn fater o arfer, ac rydych chi'n cael eich dylanwadu'n llai gan bryder.

7. Blaenoriaethwch ddeilliannau

Gan fod deall sut i fod y fersiwn orau ohonoch chi'ch hun yn gofyn am edrych tuag i mewn am ddoethineb, fyddwch chi ddim yn dod o hyd i'ch hun trwy gasglu llwyth o wybodaeth. Gadewch i'ch hunan delfrydol osod y nod. Dewiswch rywbeth plaen, syml ac o fewn eich cyrraedd, fel cael trefn ar bethau neu ddarllen mwy o ffuglen. Mae gosod nod mesuradwy yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o feddwl yn glir a helpu i chi ddechrau magu hyder.

8. Gosodwch amcanion rhesymol

Gallwch osgoi llethu eich hun trwy osod amcanion bach, mesuradwy. Os ydych chi am golli 10 pwys a chynyddu eich cynhyrchiant 30%, rhannwch y rheini'n gamau llai, fel gwneud ymarfer corff am 20 munud bob dydd neu osod trefn ddyddiol glir. Bob tro rydych chi'n cymryd cam tuag at eich nod, rydych chi'n magu hunanhyder i fod yn fersiwn orau ohonoch chi'ch hun.

9. Creu defodau grymusol

Ni fyddai unrhyw un yn dadlau nad yw athletwyr, entrepreneuriaid ac arweinwyr mwyaf llwyddiannus y byd wedi dod yn fersiynau gorau ohonynt eu hunain. Mae yna un peth sydd ganddyn nhw i gyd yn gyffredin: maen nhw wedi datblygu arferion sy'n eu gwneud yn wych. Gallai hyn olygu myfyrdod neu ddelweddu nodau i greu cyflwr meddyliol grymus. Mae bob amser yn cynnwys bwyta'n iach ac ymarfer corff. Ac yn amlach na pheidio, mae'n cynnwys ymarfer diolchgarwch yn eich gweithgareddau bob dydd. 

10. Byddwch yn dosturiol tuag atoch eich hun

Cofiwch, mae bod y fersiwn orau ohonoch chi'ch hun yn ymwneud â  chi - nid pobl eraill. Rhowch y gorau i gymharu'ch hun ag eraill a chydnabod bod pawb ar eu llwybr gwahanol eu hunain. Os nad ydych chi lle’r ydych chi am fod, byddwch yn dosturiol tuag atoch eich hun. Os ydych chi ar groesffordd, mae hynny'n iawn; mae’n bwysig cydnabod a derbyn hynny, i allu symud ymlaen a gwneud cynnydd. Yn hytrach na sgrolio trwy'r cyfryngau cymdeithasol neu deimlo’n isel eich ysbryd yn sgil rhyw gam gwag diweddar, mae’n bwysig ymarfer hunan-gariad. Ewch allan a mynd am dro. Gwnewch rywbeth rydych chi'n ei fwynhau. Cofiwch bob amser atal geiriau negyddol a gosod geiriau grymusol yn ei le.

 11. Ceisiwch reoli'ch hun yn effeithiol

Rhan o ddeall sut i fod y fersiwn orau ohonoch chi'ch hun yw dysgu cymryd cyfrifoldeb drosoch eich hun trwy hunanreolaeth effeithiol. Mae rheoli amser yn effeithiol yn eich rhyddhau o straen, yn eich llywio tuag at eich hunan delfrydol ac yn eich rhyddhau o ddisgwyliadau pobl eraill. Er mwyn cadw’n atebol a rheoli eich adnoddau, gwiriwch eich cynnydd yn wythnosol, yn fisol a phob blwyddyn. Mae cymryd rheolaeth drosoch eich hun, p'un a yw hynny'n rheoli eich amser rhydd neu'ch amser astudio, yn sicrhau llesiant cyffredinol!

 12. Cadwch yn bositif!

Wrth i chi ddysgu sut i fod y fersiwn orau ohonoch chi'ch hun, rydych chi'n sicr o wynebu rhwystrau ar y ffordd.  Yn hytrach na digalonni, ceisiwch feithrin emosiynau cadarnhaol fel angerdd, chwilfrydedd a hyblygrwydd. Edrychwch ar rwystrau fel cyfleoedd yn hytrach na rhywbeth negyddol. Trwy gadw’n bositif, fe welwch ddatrysiadau creadigol y byddech chi wedi’u methu pe byddech chi wedi parhau i fod wedi’ch llethu gan feddyliau negyddol.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576