Achrediad Tîm Aber

Achrediad Tîm Aber
I Gydnabod a Dathlu Llwyddiant eich Clwb neu eich Cymdeithas!

Mae Achrediad Tîm Aber yn wobr flynyddol sy’n cydnabod gwaith caled, twf, a chyflawniadau clybiau a chymdeithasau Prifysgol Aberystwyth. Fe’i dyfeisiwyd i helpu pob grŵp i ddatblygu a ffynnu gymaint â phosib; tra’n dathlu’r effaith anhygoel y maen nhw’n ei chael yn y gymuned fyfyrwyr.

Sut Mae’n Gweithio

Bob blwyddyn, gall clybiau a chymdeithasau weithio tuag at eu hachrediad Tîm Aber trwy gofnodi’r hyn y maen nhw’n ei gyflawni ar draws amryw o feysydd allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cyfranogi i’r Undeb - cymryd rhan yn nigwyddiadau allweddol yr Undeb ee Ffair y Glas, y Cyf Cyff, yr Etholiadau, a mwy.
  • Aelodaeth - cynnal a thyfu nifer yr aelodaeth trwy gydol y flwyddyn.
  • Gweithgarwch - cynnal gweithgareddau a digwyddiadau rheolaidd yn ymwneud â hanfod eich grŵp, gan gynnwys digwyddiadau Codi a Rhoddi, digwyddiadau cymdeithasol, a gweithdai.
  • Cymuned - cyfrannu i’r gymuned ehangach trwy godi arian, gwirfoddoli’n lleol, a gweithio ar y cyd gyda chlybiau, cymdeithasau neu sefydliadau eraill.
  • Pwyllgor - sicrhau fod aelodau’r pwyllgor yn cwblhau hyfforddiant yr Undeb, cofnodi oriau o wirfoddoli, a rhedeg y clwb yn unol â pholisïau’r Undeb.
  • Cyfathrebu - diweddaru gwefannau a chyfryngau cymdeithasol, hyrwyddo dwyieithrwydd, ac ymgysylltu â sialeni cymdeithasol yr Undeb.
  • Cyllid - cyflwyno cyllideb flynyddol, creu incwm trwy nawdd allanol, a sicrhau fod incwm aelodaeth o fudd uniongyrchol i’r aelodaeth.
  • Cynwysoldeb - rhedeg digwyddiadau cynhwysol, sicrhau fod aelodau’r pwyllgor yn mynychu hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywioldeb, a Chynwysoldeb, a rheoli rhwystrau y gall aelodau eu hwynebu yn weithredol.
  • Lles - hyrwyddo lles cadarnhaol trwy weithgarwch eich grŵp, gan gynnwys digwyddiadau sobr a mentrau cefnogol.

Caiff popeth a gyflawnir ei gofnodi yn ffeil Microsoft Teams pob grŵp, lle gall aelodau’r pwyllgor ddiweddaru cynnydd ac uwchlwytho tystiolaeth trwy gydol y flwyddyn. Mae’r ddogfen hon yn helpu staff Cyfleoedd i Fyfyrwyr a Swyddogion Myfyrwyr etholedig adolygu a dyfarnu cynnydd fesul tymor.

Teclyn Datblygu i’ch Grŵp

Nid cydnabyddiaeth yn unig sydd wrth wraidd yr achrediad; mae hefyd yn declyn datblygu yn ei hanfod. Mae o fudd i glybiau a chymdeithasau wrth osod amcanion ystyrlon a dilyn lle maen nhw arni, ee:

  • Cynyddu nifer yr aelodaeth
  • Trefnu digwyddiadau a gweithgareddau
  • Cyflwyno mentrau cydraddoldeb ac amrywioldeb
  • Gwella sgiliau pwyllgor a chynaladwyedd

Trwy adlewyrchu ar y meysydd hyn, gall grwpiau gynllunio eu blwyddyn yn well, dathlu llwyddiannau, ac adnabod meysydd lle gellir gwella.

System Sgorio Seren

Ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd, dyfarnir Sgôr Seren Tîm Aber i bob grŵp, gan dangos eu hymrwymiad a’u cynnydd:

1 Seren - Wrthi’n Datblygu: Dechrau arni a gosod sylfaen cadarn

⭐⭐ 2 Seren - Da: Creu cysondeb ac ennyn diddordeb

⭐⭐⭐ 3 Seren - Da Iawn: Cyflwyno profiadau gwych ar draw pob maes

⭐⭐⭐⭐ 4 Seren - Ardderchog: Rhagori ar draws pob maen prawf ac arwain trwy esiampl

Mae eich sgôr seren yn ffordd dda iawn o ddangos eich cyflawniadau i aelodau presennol a phosibl, gan ddwyn sylw at sut mae eich clwb neu eich cymdeithas yn rhan annatod o Dîm Aber.

Bwrw Ati

Gall pob clwb a chymdeithas gael gafael ar ddogfen eu hachrediad Tîm Aber o fewn eu hasedau Microsoft Teams. Gall aelodau’r pwyllgor:

  1. Cael mynediad at ddogfen achrediad eu grŵp.
  2. Cofnodi gynnydd pob amcan ac uwchlwythwch dystiolaeth.
  3. Cysylltu â’ch cydlynydd perthnasol i roi gwybod iddynt eich bod yn barod i gael adolygiad.
  4. Dathlu eich cynnydd bob tymor ac anelu am y seren nesaf!

Os byddwch chi angen cymorth neu gyfarwyddyd, mae croeso mawr i chi gysylltu â’r Tîm Cyfleoedd i Fyfyrwyr wnaiff eich rhoi ar ben ffordd gyda’r achrediad. Ar gyfer Clwbiau Chwaraeon, suclubs@aber.ac.uk, neu Cymdeithasau, susocieties@aber.ac.uk.

Byddwch Ran o Ragoriaeth Tîm Aber

Mae Achrediad Tîm Aber yn fwy na gwobr yn unig; mae’n glod i bopeth sy’n gwneud ein grwpiau myfyrwyr yn ffyniannus, cynhwysol, ac ysbrydoledig. Felly, ewch ati heddiw, a chawn weld pa mor bell aiff eich tîm!

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576