Mwyafrif Ethnig Byd-Eang
A wyddoch chi: Ein bod ni wedi rhoi’r gorau i’r term DALlE ac wedi dechrau defnyddio MEBE (Mwyafrif Ethnig Byd-Eang)
Pam newid? Cynhaliodd yr Undeb ymgynghoriadau â myfyrwyr a gweld mai hyn oedd y term ymbarél mwyaf poblogaidd sy’n cynrychioli eu cymunedau.
Beth fydd yn newid?
- Gelwir Swyddog Myfyrwyr MEBE ar y Swyddog Myfyrwyr DALlE.
- Byddwn yn cynnal digwyddiadau cwrdd a chyfarch myfyrwyr MEBE.
- Mae MEBE am gymryd lle DALlE yn fewnol pan yn sôn am fyfyrwyr.
Pam mwyafrif ac nid lleiafrif? Wyddoch chi fod 85% o boblogaeth y byd yn perthyn i’r Mwyafrif Ethnig Byd-Eang.
Beth yw MEBE?
Wedi trafodaethau gydag ychydig o fyfyrwyr sy’n uniaethu fel DALlE (Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol), mae Undeb Aber wedi cyflwyno i’r Senedd cynnig i gael gwared ar y term DALlE yn yr Undeb a threialu’r term MEBE (Mwyafrif Ethnig Byd-Eang). “Cyfeirir mwyafrif ethnig byd-eang yn gyffredinol at bobl sy’n ddu, Asiaidd, brown, o etifeddiaeth ddeuol, brodorol i Dde’r Byd, a/neu wedi cael eu hileiddio fel ‘lleiafrifoedd ethnig’” ac yn “cynrychioli tuag 80% o boblogaeth y byd”, yn ôl yr addysgydd a’r ymgyrchydd Rosemary Campbell-Stephens, a fathodd y term.” (Erthygl BBC) mae Mwyafrif Ethnig Byd-Eang yn cyfeirio at yr un syniad â mwy o bwyslais ar y ffaith mai term sy’n cynrychioli gwahanol gefndiroedd ethnig yw hyn. Rydym yn cydnabod nad yw’r term hwn yn berffaith, ond yn gam cadarnhaol ymlaen i hybu’r trafod ynghylch ethnigrwydd yn Undeb Aber.
Beth sy’n bod ar ‘DALlE’?
Yn nhyb y llywodraeth, nid yw’r termau DALlE (Du, Asiaidd a Lleiafrif Ethnig) a DLlE (Du a Lleiafrif Ethnig) yn cael eu defnyddio mwyach oherwydd eu bod yn rhoi pwyslais ar grwpiau ethnig penodol (Asiaidd a Du) ac yn cau eraill (hil gymysg, Arall, a Grwpiau Ethnig Lleiafrifol Croenwyn) allan. Gall y termau hyn hefyd guddio gwahaniaethau rhwng grwpiau ethnig a chreu dehongliadau camarweiniol o ddata.
Fis Mawrth 2021, argymhellodd y Comisiwn ar Wahaniaethau ar sail Hil ac Ethnigrwydd y dylai’r llywodraeth roi’r gorau i’r term DALlE. Un o’r argymhellion yn yr adroddiad terfynol ar wahaniaethau COVID-19, a gyhoeddwyd fis Rhagfyr 2021, oedd i gyfeirio at grwpiau ethnig lleiafrifol bob yn un, yn hytrach nac fel grŵp cyfan. Cefnogwyd hyn gan ymchwil a gomisiynwyd gan yr Uned Gwahaniaethu ar sail Hil, a ganfuwyd bod pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn dair gwaith yn fwy tebygol o gytuno nac anghytuno fod y term DALlE yn niweidiol.
Pa opsiynau eraill sydd?
Cyn cyfarfod y Senedd 2026, lle trafodwyd polisïau gan gynrychiolwyr o’r Senedd, cawsom ymgynghoriadau â myfyrwyr o’r gymuned DALlE. Wnaethom ni gynnal cyfarfodydd tŷ ac unigol preifat gyda myfyrwyr er mwyn deall rhai o’r daliadau a’r meddyliau ynghylch y terminoleg yn ymwneud â myfyrwyr a staff o liw yn yr Undeb. Wedi ymchwil a sgwrsio pellach gyda staff mewnol, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a sefydliadau eraill, y newidiadau a gynigwyd oedd mwyafrif byd-eang, Mwyafrif Ethnig Byd-Eang, Lleiafrifoedd Ethnig a Phobl Hileiddedig. Mae gan brifysgolion wahanol enwau ar Swyddogion ‘DALlE’, a phwysig yw amlygu bod cyd-destun a hunaniaeth sefydliad yn wahanol o le i le. Does dim ateb cyflym nac ateb fydd yn addas i bawb i hyn gan y bydd gan bob undeb myfyrwyr ei amcanion a’i werthoedd ei hun. Yn y pendraw, pan yn trafod profiadau bywyd grwpiau gwahanol ac amrywiol iawn o bobl, mae gofyn ystyried llawer, ac nid yw term yn diystyru na diffinio’n llawn hanesion go iawn y bobl a gynrychiolir gan y term. Er bod myfyrwyr yn perthyn i grwpiau lleiafrifoedd ethnig, maent hefyd yn fodau dynol â’u hanesion, eu cefndiroedd, eu hetifeddiaethau, eu straeon a’u hunaniaethau eu hunain y dylent nhwthau gael eu diffinio iddynt eu hunain heb ystyried unrhyw derm ymbarél.
Pam MEBE?
Nid ar chwarae bach y cyflwynwyd y syniad i newid DALlE i MEBE yn y Senedd. Myfyrwyr oedd wrth wraidd y syniad hwn gan fod yr Undeb am i fyfyrwyr gael taith fyfyriwr fythgofiadwy ac i fod yn hapus, iach a chael eu grymuso. Yn rhan o ysgogi myfyrwyr yw sicrhau eu bod yn gallu adrodd eu hanes a pheidio ag ildio i’r cyfyngiadau ar eu profiadau bywyd. Mae hefyd yn pwysig i gydnabod yr anawsterau a’r gwahaniaethau y mae pobl sy’n uniaethu fel ‘DALlE’ yn eu hwynebu. Fodd bynnag, wrth fynd i’r afael â chaledi megis hiliaeth, lliwiaeth, microymosodau a rhagfarn ddiarwybod, mae hefyd lle i fodoli trwy safbwynt sy’n grymuso pobl ac yn dathlu harddwch profiadau bywyd gwahanol heb anwybyddu neu ddiystyru un grwp ar draul y llall. Nid yw hanes neb yn bwysicach na’r llall, ond y gwirionedd yw bod rhai grwpiau ethnig lleiafrifol ee myfyrwyr a staff du a brown yn profi rhwystrau ychwanegol i’w goresgyn yn y gymdeithas. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y dylai lleiafrifoedd ethnig eraill gael eu rhoi mewn categori i weld p’un ai a ydynt yn ddigon addas i fod yn ‘DALlE’ ai pheidio. MEBE oedd yr opsiwn mwyaf poblogaidd gan ei fod yn adlewyrchu cryfderau ac amrywioldeb myfyrwyr o bob cefndir ethnig heb gau eraill allan fel y mae’r term DALlE yn ei wneud. Y syniad yw newid i ymdeimlad sy’n grymuso pobl, gan ganiatáu i grwpiau ethnig lleiafrifol adrodd eu hanesion eu hunain. Boed trwy ddadlau dros wella profiad myfyrwyr du neu drwy sicrhau fod myfyrwyr o gefndiroedd ethnig amrywiol yn teimlo ymdeimlad dyfnach o berthyn, rydym am i bawb deimlo eu bod wedi cael eu clywed.
Yng nghyd-destun Aber, tref lai sy’n prysur fynd yn fwyfwy amlddiwylliannol, nid yw’r term ‘mwyafrif byd-eang’ yn golygu bod hyn yn ymwneud â myfyrwyr o wahanol gefndiroedd ethnig lleiafrifol ac nad ydynt yn wyn eu croen amrywiol, oni bai fod rhywun eisoes yn gyfarwydd â’r sgwrs ynghylch hunaniaeth hileiddedig ac ethnigrwydd. Yn tynnu ar y model a weithredir yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain a Phrifysgol Keele, mae MEBE yn ymddangos yn boblogaidd.
Buodd rhai myfyrwyr rhwng dwy stôl ynglŷn â’r term ‘MEBE’, sy’n ddealladwy gan nad yw’n derm perffaith. Mae lle bob amser i gynnal trafodaeth ehangach am ethnigrwydd. Felly, os bydd myfyrwyr yn teimlo fod angen ailedrych ar/newid y term hwn yn y dyfodol, gallant siarad â’r swyddog MEBE neu’n uniongyrchol ag Adran Llais y Myfyrwyr. Mae’r Undeb am fod yn ddylanwad cadarnhaol ar fyfyrwyr, ac rydym yn teimlo bod y newid o ‘DALlE’ i ‘MEBE’ yn adlewyrchu hyn. Ni chaiff hyn effaith ar unrhyw gymhwysedd neu fynediad i unrhyw grantiau i fyfyrwyr ‘DALlE’ a chaiff yr Undeb wybod am unrhyw fentrau i fyfyrwyr ‘DALlE’. Dim ond newid enw i’r Undeb yw hyn, a bydd yr egwyddor i gefnogi myfyrwyr o wahanol gefndiroedd ethnig yn aros yr un.
"Yn ystod fy amser fel y Swyddog Myfyrwyr DALlE yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, cefais y fraint o gynrychioli myfyrwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig, gan ddadlau dros gynwysoldeb a chynrychiolaeth o fewn cymuned y Brifysgol. Fel y swyddog olaf â'r teil DALlE, dwi'n falch o fod wedi bod yn rhan o'r trawsnewid hwn tuag at gynrychiolaeth fwy grymusol a chywir o'n cymuned. Mae ailenwi i MEBE (Mwyafrif Ethnig Byd-Eang) yn adlewyrchu newid cadarnhaol mewn iaith, a symud i ffwrdd o ddiffinio ein hunaniaethau gan statws lleiafrifol a dathlu y ffaith ein bod yn cynrychioli'r mwyafrif byd-eang yn lle. Dwi'n gobeithio y bydd y newid hwn yn ysgogi swyddogion a myfyrwyr yn y dyfodol i gymryd rhan yn y rôl gyda balchder a hyder o'r newydd." Priyanka - Swyddog Myfyrwyr CALIE