Erthygl Crynodeb Millie 2026–2027

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae’n wythnos olaf eich Swyddogion 25/26... yr wythnos hon, byddwn ni’n cyhoeddi erthyglau i grynhoi uchafbwyntiau eu rolau eleni! 


Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn gymaint o hwyl a dwi mor falch o gael bod eich Llywydd Undeb Aberystwyth olaf. 

Mae’r uchafbwyntiau gen i yn dechrau’n syth o noson y canlyniadau pan glywais fy enw fel y llywydd newydd, fe oeddwn yn neidio o lawenydd. I’r holl bobl dwi wedi gweithio gyda nhw eleni yn yr undeb, y brifysgol a’r gymuned ehangach, dwi’n ymfalchïo'n fawr yn yr holl waith rydyn ni’n ei gyflawni i wneud gwahaniaeth er budd bywydau myfyrwyr ym mhob modd y gallwn. I bob myfyriwr dwi wedi’u helpu eleni boed trwy eu rhoi nhw ar ben y ffordd, dosbarthu pethau am ddim trwy gydol y flwyddyn iddynt neu trwy fod yn wyneb gyfeillgar wrth iddynt gerdded trwy adeilad - dwi’n dymuno’r gorau i chi yn eich astudiaethau a gwelaf i chi yn y graddio! I’m holl ffrindiau yn ystod fy amser yma - rydych chi wedi gwneud cymaint o argraff arnaf ac wedi fy ysgogi i wneud fy ngorau. O, a dwi’n addo fy mod i am roi’r gorau i’ch hambygio i lenwi’r arolygon nawr. 

Trwy’r holl gyfleoedd anhygoel y mae’r rôl hon wedi eu rhoi i fi, o eistedd ar gyngor y brifysgol, i fynd i seremonïau gwobrwyo neu fynychu cynadleddau cenedlaethol i lywio dyfodol myfyrwyr, dwi wedi ennill cymaint o brofiadau ac i unrhyw un sy’n ystyried mynd yn swyddog, ewch amdani gan efallai y bydd y flwyddyn orau eich bywyd. 

Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r merched oedd gyda fi bob dydd, Nanw, Espe, Ffion a Tana. Ni fyddai eleni fod wedi bod yr un peth hebddoch chi i gyd yno! Dyma ddymuno’r gorau i’r swyddogion newydd a dwi’n edrych ymlaen at weld beth allwch chi wneud. 

Chaiff Aberystwyth ddim gwared arnaf i eto, byddaf yn gorffen fy is-radd nawr felly peidiwch â bod ofn dweud helo pan yn fy ngweld i (yn y llyfrgell debycaf). 

Dyma rannu swmp o luniau - hefyd ymddiheuriadau i unrhyw un dwi wedi bod wrth eu hymyl gyda sharpie!

          

Comments

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576