Mae’n wythnos olaf eich Swyddogion 25/26... yr wythnos hon, byddwn ni’n cyhoeddi erthyglau i grynhoi uchafbwyntiau eu rolau eleni!
Saff dweud bod fy amser fel y Swyddog Llesiant yn Undeb Aber wedi bod yn fythgofiadwy, yn y ffordd orau bosib. Dwi wedi profi sawl eiliad, her a buddugoliaeth fawr ar hyd y ffordd. Yn Undeb Aber, y nod yw sicrhau fod myfyrwyr Aber yn cael taith fyfyrwyr anhygoel, eu bod yn hapus, yn iach, ac wedi’u grymuso, gyda ffrindiau oes a gorwelion disglair. Dwi’n ddiolchgar o fod wedi cael bod yn rhan o dîm sy’n mynd y tu hwnt i’r disgwyl i sicrhau hyn, felly dyma dri uchafbwynt gen i o fy amser fel swyddog.


Yn gyntaf, cyflwyno yw un o’m huchafbwyntiau y flwyddyn hon. Cyflwynais mewn rhai o’r Sgyrsiau Croeso yn rhan o’r Wythnos Croeso wrth ochr ein tîm Swyddogion brwdfrydig. Ar ôl y Sgwrs Croeso i fyfyrwyr rhyngwladol, cawsom ryngweithio â myfyrwyr a oedd eisiau deall bywyd y myfyrwyr a’r hyn y mae’n ei ofyn i lywio’r pwysau ynghlwm ag ef. Myfyrwyr sydd wrth galon rolau swyddogion, a dwi wedi bod wrth fy modd yn eu gweld yn cael eu traed danynt, goresgyn heriau a chael hyd i’w ffrindiau mewn ffyrdd annisgwyl. Bues i hefyd yn gweithio gyda’r Pennaeth Hygyrchedd a Lles, John Harrington, i gynnal cyflwyniad ar les i fyfyrwyr blwyddyn sylfaenol. Wnaethom hefyd gyflwyniad ar les yn ystod adegau o straen, ansicrwydd a baich gwaith llethol i fyfyrwyr blwyddyn olaf yn yr Adran Daearyddiaeth, model y mae Gwasanaethau’r Myfyrwyr yn gobeithio ei weithredu ar draws gwahanol adrannau yn y dyfodol. Cyflwynais ychydig ynghylch y gwaith y mae’r Undeb yn ei wneud yn nigwyddiad Cyngor Hil Cymru/Hanes Pobl Dduon 365. Caed canlyniadau buddiol wedi’r digwyddiad gyda mwy o eglurder ar ba feysydd y gallai’r Undeb a staff y Brifysgol gydweithio. Es i hefyd â’r afael â sgyrsiau anodd wrth i fi fyfyrio ar fy swydd fy hunan fel swyddog yn cyfrannu tuag at y newid systemig rwy’n gobeithio ei weld. Dyma ddiolch o galon i’r cydweithio gawsom eleni.
Yn ail, gwerthfawr ar y naws oedd cydweithio gyda myfyrwyr ar amryw o ymgyrchoedd! Dwi wedi ennill cymaint o wybodaeth trwy weithio ar yr ymgyrchoedd gwrth-sbeicio a bws yn ogystal â’r gweithgor DALlE (Du, Asiaidd, a Lleiafrif Ethnig). Rydyn ni wedi llwyddo i ennyn cyfranogiad gan y gymuned leol yn y dref ee Cyngor Sir Ceredigion i helpu cyflwyno arhosiad newydd yn Fferm Penglais yn rhan o wasanaeth y bws 301. Rydyn ni hefyd wedi tynnu aelodau o Adran Taith y Myfyriwr a’r Cyngor i mewn i helpu adnabod strydoedd a golau gwael ynddynt a’r hyn y gellid ei wneud i greu strydoedd saffach i fyfyrwyr. Lle digon saff yw Aber o gymharu â rhai dinasoedd, ond ceir helynt serch hynny ac mae bob tro modd gwneud mwy i sicrhau ei bod yn saffach fyth i fyfyrwyr a thrigolion. Gwych oedd cael bod yn rhan o ymgyrch gynyddol sydd â’r nod o wneud bywyd yn haws i fyfyrwyr. Mae myfyrwyr o wahanol gefndiroedd ethnig weithiau yn cael eu hesgeuluso a’u diystyru mewn bywyd bob dydd, felly roedd yn fraint cael creu lle i ennyn eu diddordeb trwy gyfarfodydd tŷ, gweithdai gwallt gweadog â thrinwyr gwallt profiadol, Grace ac Oluwabukunolami a’r prosiect myfyrwyr DALlE gyda Student Minds. Mynychodd ychydig o’r myfyrwyr ar y gweithgor weithdy a redwyd gan Osaro Otobo, sylfaenydd Making Diversity Count, sefydliad effaith gymdeithasol â’r nod o feithrin amgylcheddau cynaliadwy, cynhwysol ac arloesol. Y myfyrwyr sydd wedi gwneud y rôl hon yn werth chweil, a byddaf yn trysori am byth pob cyfranogiad i lwyddiant ymgyrchoedd a digwyddiadau.
Yn olaf, uchafbwynt mawr oedd ennill undeb y flwyddyn! Mae aelodau o staff yr Undeb yn gweithio’n galed i wneud i bethau ddigwydd a hoffwn i fod wedi gwerthfawrogi eu cyfranogiad yn fwy pan yn fyfyrwraig. Arwyr pob un yw ein Prif Swyddog Gweithredol, a’n timau Cyfleoedd, Cyngor a Lles, Cyllid, Llais a Chyfathrebu ac Ymgysylltiad! Bues i’n rhan o’r tîm Cyngor a Lles mawr ei fri. Mae Annmarie, ein Pennaeth Pobl a Lles, a’n Cynghorydd Myfyrwyr, Molly, wedi sicrhau fy mod i’n cadw’n bwyllog a chall trwy hyn i gyd, a byddaf yn ddiolchgar iddynt am eu doethineb (heb ei ail), eu cymorth a’u gofal! Mae’r tîm Swyddogion i fi weithio gydag ef eleni wedi bod yn anhygoel. Roeddwn i’n poeni i ddechrau gan ein bod mor unigryw, gyda chefndiroedd a ffyrdd gwahanol o wneud pethau. Fodd bynnag, aeth hi’n iawn yn y pendraw, ac roedd yn gyfle dysgu gwych. Dwi wedi dysgu gwytnwch a chael hwyl ochr yn ochr â’r tîm o ferched sydd ag agwedd gwych tuag at weithio, hiwmor da, a syniadau Tik-Tok di-baid! Mae Millie, Nanw, Esperanza a Ffion i gyd yn arbennig ac dwi wedi dysgu cymaint oddi wrth y modd y byddan nhw’n cefnogi myfyrwyr a staff, yn ddiamod!
Mae’r swydd hon wedi rhoi llawer o gyfleoedd. Dwi hefyd wedi dysgu am fod yn ymddiriedolwr a sut mae hynny’n wahanol i’m rôl fel cynrychiolydd myfyrwyr. Dwi wedi bod yn rhan o bwyllgorau a chyfarfodydd dylanwadol lle y gellir dadlau dros leisiau myfyrwyr a’u hyrwyddo mewn gwahanol ffyrdd. I fi, roedd yn flwyddyn i’w chofio ac mae cymaint o ddatblygiad personol wedi dod o’r swydd hon fel Swyddog Llesiant.