Yn ein Senedd Hydref 2025, penodwyd y Costau Byw yn un o brif flaenoriaethau Undeb Aber gan y myfyrwyr. Trwy gydol y flwyddyn, rydyn ni wedi gweithio gyda’r Brifysgol a phartneriaid lleol i helpu lleihau costau, gwella mynediad at gymorth, a gwneud y bywyd myfyriwr ychydig yn haws.
Mwy o Dryloywder ynghylch Costau Cwrs Ychwanegol
Fe lwyddom i sicrhau ymrwymiad gan y Brifysgol i gyhoeddi gwybodaeth gywir am unrhyw gostau ychwanegol ynghlwm â chyrsiau y bydd rhaid i fyfyrwyr eu hystyried ar ben eu ffioedd dysgu.
Unwaith y caiff ei weithredu, bydd gan fyfyrwyr well wybodaeth wrth law wrth gynllunio a chyllidebu ar gyfer eu hastudiaethau.
Ceir gwybod pellach am gostau ychwanegol yma: https://www.aber.ac.uk/cy/study-with-us/fees/student-fees/additional-fees/
Gwella’r Gwasanaeth Bws i Fyfyrwyr Fferm Penglais
Yn sgil ymgyrchu gan Undeb Aber, mae Mid Wales Travel wedi cytuno ar gyflwyno llwybr bws 301 diwygiedig, gan ddarparu cysylltiad uniongyrchol rhwng Fferm Penglais â’r archfarchnadoedd ee Lidl, Tesco a Morrisons.
Lansir y gwasanaeth hwn fel prawf chwe mis o fis Medi 1af ymlaen, a wnaiff teithiau siopa yn rhatach trwy ddibynnu’n llai ar dacsis. Trwy ddefnyddio’r gwasanaeth, gallwch helpu dangos y galw amdano a chefnogi ei ddyfodol.
I ddarllen mwy: https://www.umaber.co.uk/news/article/umabersu/Dau-ddiweddariad-bws-gwych-i-fyfyrwyr-Aber/
Cymorth Ymarferol ar gyfer Costau Byw Trwy Gydol y Flwyddyn
Trwy gydol y flwyddyn, rydyn ni wedi cynnig cymorth ymarferol yn ystod ymgyrchoedd a digwyddiadau pwysig, gan gynnwys yr Wythnos Arian Myfyrwyr a Lleddfu Straen yr Arholiadau.
Buodd hyn yn cynnwys eitemau brecwast, ffrwythau ffres, pecynnau coginio ar y cyd, tocynnau roliau selsig, nwyddau cartref hanfodol, nwyddau misglwyf ailddefnyddiadwy, pecynnau iechyd rhywiol, a magnedau a llun graddio arnynt am ddim.
Er na all un fentrer yn unig roi pen ar yr argyfwng costau byw, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth lle bo modd a helpu myfyrwyr i gael gafael ar yr adnoddau sydd eu hangen arnynt.
Parhau â’r ymgyrch ‘Yma a Thraws’
Eleni, rydyn ni wedi parhau â buddsoddi yn y fenter ‘Yma a Thraws’ gan ddarparu nwyddau cadarnhau rhywedd am ddim ar gyfer myfyrwyr traws ac o rywedd anghydffurfiol
Trwy gynnal y gefnogaeth hon, rydyn ni wedi helpu dileu rhwystrau ariannol a sicrhau y gall myfyrwyr traws ac anghydffurfiol eu rhywedd gael gafael ar nwyddau sy’n cadarnhau hunaniaeth eu rhywedd a chefnogi eu lles.
Gellir dysgu pellach am Yma a Thraws: https://www.umaber.co.uk/newidaber/ymgyrchoedd/ymgyrchymaathraws/
Cynnydd ar Ffioedd Ailsefyll
Yn sgil trafodaethau gyda’r Brifysgol, cytunwyd ar newidiadau yn ymwneud â ffioedd ailsefyll. Wrth i’r manylion a’r wybodaeth gael eu gorffen, byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth â myfyrwyr pan gaiff eu cyhoeddi’n ffurfiol.
Edrych Ymlaen
Fe wyddem nad yw pwysau costau byw wedi llacio. Dyna pam y byddwn yn parhau â gweithio gyda myfyrwyr, y Brifysgol a phartneriaid lleol i adnabod dulliau ymarferol i leihau costau, gwella cymorth, a gwneud astudio yn Aberystwyth yn fwy fforddiadwy.
Dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, rydyn ni wedi gweld cryn welliant eleni, a dadlau dros fwy a wnawn.