Dau ddiweddariad bws gwych i fyfyrwyr Aber!

welsh

Dau ddiweddariad bws gwych i fyfyrwyr Aber!

Yn gynharach eleni, fe wnaethom gyhoeddi y byddai’r gwasanaeth 301 yn dechrau galw yn Fferm Penglais wedi ymgyrchu parhaus gan Undeb Aber.

Rydyn ni’n falch iawn o gadarnhau bod y gwasanaeth bellach yn rhedeg ers 1 Medi, gan ddarparu cysylltiad bws uniongyrchol rhwng Fferm Penglais a'r dref, gan gynnwys cyrchfannau siopa allweddol.

Ac ychydig mwy i chi...

Mae’r cerdyn bws blynyddol myfyriwr am £100 yn ei ôl!

Drwy weithio ar y cyd â Mid Wales Travel, rydyn ni wedi helpu i ailgyflwyno cerdyn bws myfyriwr sy'n cynnig teithio diderfyn ar y gwasanaethau canlynol:

  • 301 | 304 | 03 | 512
    06 (yn yr haf)

Galwch heibio Derbynfa Undeb Aber yn ystod y Penwythnos Croeso neu unrhyw bryd drwy gydol y flwyddyn i brynu eich cerdyn bws. Dyna chi anrheg wych wrth symud i mewn gan rieni a gallai arbed arian i chi drwy gydol y flwyddyn!

Mae'r newidiadau hyn yn ymwneud â gwneud teithio o amgylch Aberystwyth yn fwy fforddiadwy ac yn fwy cyfleus i fyfyrwyr. Mae'n enghraifft wych o sut y gall adborth ac ymgyrchu gan fyfyrwyr arwain at newid go iawn.

Student Bus Card

Llun 19 Hyd 2026

Cerdyn Bws

Llun 19 Hyd 2026

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576