#HeloAber Cyfnod sy’n hir ei ddisgwyl yn nyddiadur y flwyddyn academaidd yw Wythnos y Glas ac mae llawer o bobl yn rhoi pwysau arnyn nhw eu hunain i’w wneud yn wythnos orau’r holl flwyddyn. Mae’n bwysig pwyllo a deall y gall fod yn beth mawr ond mae’n bwysicach fyth nad wyt ti’n cael dy lethu ganddi. Rydyn ni wedi rhoi rhestr o bethau at ei gilydd y dylet ti eu gwneud yn ystod cyfnod y glas efallai na fyddet ti wedi meddwl amdanynt. Dewisa’r pethau pwysicaf i ti ond paid â rhoi pwysau arnat d
Cyfnod sy’n hir ei ddisgwyl yn nyddiadur y flwyddyn academaidd yw Wythnos y Glas ac mae llawer o bobl yn rhoi pwysau arnyn nhw eu hunain i’w wneud yn wythnos orau’r holl flwyddyn. Mae’n bwysig pwyllo a deall y gall fod yn beth mawr ond mae’n bwysicach fyth nad wyt ti’n cael dy lethu ganddi.
Rydyn ni wedi rhoi rhestr o bethau at ei gilydd y dylet ti eu gwneud yn ystod cyfnod y glas efallai na fyddet ti wedi meddwl amdanynt. Dewisa’r pethau pwysicaf i ti ond paid â rhoi pwysau arnat dy hun i wneud popeth sydd ar y rhestr hon, ni fydd popeth at ddant pawb.
Digwyddiadau gyda’r dydd.
Gwyliwch ein tudalen ar yr gwefan! https://www.umaber.co.uk/ents/
Digwyddiadau gyda’r nos.
CWIS YR UM - GWENER
TORRI’R IÂ - SADWRN
BINGO LINGO - SUL
DISGO DISTAW - LLUN
NOSON COMEDY - MAWRTH
NOSON ACOG A PWL - MERCHER
SWN Y GLAS- IAU
PARTI PAENT A SWIGOD - GWENER
PARTI DIWEDD Y GLAS - SADWRN
Mynnwch eich tocynnau yma: https://www.umaber.co.uk/ents/
Pethau amrywiol i’w gwneud
- Os gwnei di ddadbacio un peth, rho dy fasged golchi dillad allan fel bod dy holl ddillad brwnt mewn un lle.
- Cer o gwmpas y campws i ddod i nabod y lle, mae’n syniad i ti fynd i’r dref a chael tro o’i hamgylch. Dwyt ti byth yn gwybod beth weli di yn Aber.
- Rho ganiad i rywun adref neu ddal lan gyda rhywun cyfarwydd – mae wythnos y glas yn gallu bod yn ormod felly mae’n bwysig siarad gyda rhywun am sut mae’n mynd. Mae yna lawer o linellau cymorth nos ac elusennau y gelli di eu ffonio os oes well gen ti siarad gyda unrhyw un di-enw.
- Cyflwyno dy hun i dy gyd-letywyr – bydd eisiau i ti nabod y bobl fydd yn byw gyda thi, efallai y bydd yn chwithig i gyflwyno dy hun i rywun newydd weithiau ond po gyntaf po gorau.
- Cysyllta gyda phobl sy’n astudio’r un cwrs â thi – mae dod i arfer i ddarlithoedd yn haws os wyt ti’n nabod o leiaf un person arall sy’n mynd hefyd.
- Cer i siopa a llenwa’r cwpwrdd gyda phrif fwyd – does dim angen mynd dros ben gyda’r siopa ond mae’n bwysig cael y pethau angenrheidiol bob dydd yn y cwpwrdd. Cofia mai’r tro cyntaf fydd y drutaf felly meddylia am y pethau rwyt ti’n eu prynu yn hytrach na phrynu llwyth o bethau na fyddi di angen yn syth
- Gwna yn siwr dy fod yn cofrestru ar gyfer dy gwrs cyn gynted â phosib. Po gyntaf rwyt ti’n cofrestru, po gyntaf y bydd y benthyciad i fyfyrwyr yn dod i mewn i dy gyfrif banc. Cei di yr wybodaeth fydd eisiau am y broses gofrestru gan dy adran.
Gwnewch yn siwr eich bod yn ymuno â'n grwp facebook glasfyfyrwyr yma: http://www.facebook.com/groups/heloaber2022
a dilynwch ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol @umabersu
Edrychwch ar ein digwyddiadau glasfyfyrwyr yma: https://www.umaber.co.uk/ents/
#HeloAber