Beth i’w bacio ar gyfer y Brifysgol

#HeloAber Pan yn symud i rywle newydd, mae’n gallu bod yn anodd cadw golwg ar bopeth sydd eisiau arnat ti pan yn dechrau ar dy antur nesaf.

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Pan yn symud i rywle newydd, mae’n gallu bod yn anodd cadw golwg ar bopeth sydd eisiau arnat ti pan yn dechrau ar dy antur nesaf.

 

#HeloAber Rydyn ni wedi rhoi rhestr at ei gilydd o bopeth sy’n hawdd ei anghofio a’i adael tan y funud olaf pan yn symud i’r Brifysgol!

 

  • Haen i roi ar matras/amddiffyn matras
  • Addurniadau i dy helpu i ymgartrefu fel goleuadau tylwyth teg gyda sy’n defnyddio batris
  • Lluniau o’r pethau/pobl sy’n bwysig i ti
  • Posteri
  • Hors ddillad i sychu dy ddillad arni
  • Bagiau dillad golchi
  • Plwg clust
  • Slipars/sleidars
  • Cadi ystafell ymolchi os wyt ti’n rhannu ystafell ymolchi
  • Seinyddion/clustffonau
  • Bateris
  • Plastrau
  • Gwisg ffansi
  • Pecyn o gardiau
  • Lid estyn
  • Cambrenni cot
  • Addasydd plwg ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol
  • Pinnau bawd

 

Mae yna ddigon o ganllawiau ar “bethau i ddod â thi i’r Brifysgol” i’w cael – gwna yn siwr dy fod yn darllen gwahanol ffynonellau ar-lein. Fodd bynnag, cofia fod yna lawer o siopau yma yn Aberystwyth gan gynnwys llwyth o fusnesau annibynnol a fyddai’n croesawu cwsmeriaid newydd, felly does dim angen pryderu os byddi di’n anghofio rhywbeth.

 

Gwnewch yn siwr eich bod yn ymuno â'n grwp facebook glasfyfyrwyr yma: http://www.facebook.com/groups/heloaber2022

a dilynwch ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol @umabersu

Edrychwch ar ein digwyddiadau glasfyfyrwyr yma: https://www.umaber.co.uk/ents/

 

Pob lwc gyda’r pacio bawb ac fe welwn ni chi cyn bo’ hir!

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576