Teitl Gwreiddiol: A ddylai Prifysgol Aberywtyth newid Starbucks gyda brand o goffi lleol sy’n fwy cynaliadwy
Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 29/04/2024
Dyddiad Pleidlais o’r Holl Fyfyrwyr: 06/03/2026
Yn darfod ar: 06/03/2029
Statws: Rydym yn gweithio arno
Swyddog sy'n gyfrifol: Llywydd yr Undeb
Mae Prifysgol Aberystwyth yn gosod ei hun fel sefydliad sy’n ymwybodol o’r amgylchedd, sy’n cefnogi diwylliant ac economi Gymru. Felly mae ei phartneriaeth ag un o'r corfforaethau mwyaf a mwyaf niweidiol ar y Ddaear yn codi cryn gywilydd a deud y gwir.
Crynodeb:
Cawn wared ar Starbucks a rhoi cwmni coffi lleol a mwy cynaliadwy yn ei le.
Manylion:
Ar hyn o bryd, mae UM, y Neuadd Fwyd, ac Ysgubor yn Fferm Penglais mewn partneriaeth â Starbucks fel eu prif gyflenwr coffi. Mae'r tri dan reolaeth gwasanaethau lletygarwch y Brifysgol. Mae Starbucks yn enwog am dorri hawliau dynol a gwyrddgylchu ymrwymiadau i gynaladwyedd, heb sôn am ei fod yn gorfforaeth gwerth biliynau o bunnoedd sy'n cyfrannu dim i'r economi a chymdeithas leol. Yn y cyfamser, mae CaffiBach yn adeilad Gwendolyne Rees yn defnyddio Teifi Coffee, cwmni o Geredigion y mae ei linell gynhyrchu yn rhedeg yn gyfan gwbl oddi ar ynni adnewyddadwy, yn cefnogi prosiectau lleol, ac sydd mewn partneriaeth â Coed Cadw mewn cynllun cyfraniadau carbon.
Cyflwynwyd gan: Sam Hopkins
Diweddariadau
| Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
| Mae Tamed Da wedi penderfynu rhoi’r gorau i ddefnyddio Starbucks ac wrthi’n asesu lleoliadau eraill sy’n prynu oddi wrth Starbucks |
Bayanda (Llywydd Undeb 2023-2024) |
Mehefin 2024 |
| Nid yw Starbucks bellach ar gael yn Sgubor. |
Bayanda (Llywydd Undeb 2024-2025) |
Tachwedd 2024 |
| Newidiodd y Bar yn y Cwtsh (a leolir yn yr Undeb) i ddefnyddio Costa Coffe. Yn sgil pleidlais yr holl fyfyrwyr, cymerir camau tuag at newid i gyflenwr coffi lleol yn lle Costa o’r flwyddyn academaidd 2026-2027 ymlaen. |
Undeb Aber |
Mawrth 2026 |
| Yn ystod y flwyddyn academaidd 2025-2026, newidiwyd o Starbucks i Costa yn yr Undeb. Roedd y myfyrwyr yn anhapus gyda’r penderfyniad hwn ac aethant ati i gynnal pleidlais o’r holl fyfyrwyr i gael gwared ar Costa a mynd am gyflenwr coffi mwy lleol. Byrdwn Pleidlais o’r Holl Fyfyrwyr oedd, “A ddylai Undeb Aber weithio gyda’r Brifysgol i roi’r gorau i werthu nwyddau Costa Coffee yn y “Cwtsh Coffi” sy’n eiddo i’r Brifysgol yn Adeilad Undeb y Myfyrwyr a throi at gyflenwr coffi o Gymru yn lle?”. Gyda dros 23% o boblogaeth y myfyrwyr yn pleidleisio, pleidleisiodd 77% o blaid y cynnig hwn. |
Undeb Aber |
Mawrth 2026 |
|
Aeth y bar yn yr Undeb ati i ystyried brandiau coffi lleol ac yn y flwyddyn academaidd nesaf byddwn yn gweini Roots.

|
Undeb Aber |
Gorffennaf 2026 |
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.