Angen Mwy o Amser? Sut mae gwneud cais am Estyniad i Waith Cwrs
Rydyn ni’n deall nad oes wybod beth ddaw mewn bywyd. Os oes angen mwy o amser arnoch i gyflwyno eich gwaith cwrs, mae gan y Brifysgol broses estyniad i’ch cefnogi.
Beth yw Estyniad?
Mae estyniad yn rhoi 1–14 diwrnod calendr ychwanegol i chi gyflwyno eich gwaith pan gaiff amgylchiadau annisgwyl effaith ar eich gallu i gyrraedd y dyddiad cau.
Sylwer:
- Ni all estyniadau fynd y tu hwnt i ddiwrnod olaf cyfnod arholiadau’r tymor hynny.
- Os oes angen mwy o amser arnoch na hyn, gallwch wneud cais am Amgylchiadau Arbennig yn lle hynny.
Pryd Gallwch Chi Wneud Cais am Estyniad?
Gallwch wneud cais os oes gennych amgylchiadau meddygol neu bersonol clir, megis:
- Salwch neu anaf (gyda dyddiadau perthnasol)
- Profedigaeth neu resymau tosturiol eraill
- Dioddef oddi wrth drosedd
- Problemau ariannol neu dai
- Materion personol difrifol
Ni dderbynnir:
- Problemau cyfrifiadur neu argraffu
- Diffyg mynediad at adnoddau
- Sawl dyddiad cau ar yr un diwrnod
- Anhawster gyda’r deunydd
- Gweithgareddau nad ydynt yn academaidd (e.e. teithiau, hyfforddiant)
- Gemau argyfwng, perfformiadau, teithiau astudio adrannau
- Salwch heb dystiolaeth feddygol
Sylwch efallai na fydd rhai mathau o waith asesedig yn gymwys ar gyfer estyniad, er enghraifft, cyflwyniadau grŵp, perfformiadau grŵp asesedig. Os ydych yn ansicr a gewch chi estyniad ar gyfer eich asesiad, gwiriwch gyda’ch adran cyn cyflwyno’r Ffurflen Gais am Estyniad i Ddyddiad Cau Gwaith Cwrs.
Pa Dystiolaeth Sydd Angen?
- Tystysgrif feddygol/iechyd (wedi’i dyddio ar gyfer yr asesiad)
- Tystysgrif marwolaeth
- Llythyr gan wasanaethau cymorth y Brifysgol neu sefydliadau allanol
- Llythyr Ymgynghori Ailadroddus Cyflyrau Cyffredin
- Datganiad effaith yn egluro sut effaith a gafodd y mater ar eich Gwaith
Os na allwch ddarparu tystiolaeth ar unwaith:
- Eglurwch pam a phryd y byddwch yn ei chyflwyno.
- Dylid darparu tystiolaeth erbyn diwedd y cyfnod arholiadau.
- Sicrhewch eich bod yn darparu datganiad effaith sy’n cynnwys eglurhad clir o sut y cafodd eich amgylchiadau effaith ar asesiadau penodol. Manylwch, gan roi dyddiadau a’r effaith ar eich gallu i gyrraedd y dyddiad cau.
- Gall methu â darparu tystiolaeth arwain at dynnu’r estyniad yn ôl a dim marciau.
Sut Mae Gwneud Cais
- Llenwch y Ffurflen Gais am Estyniad i Ddyddiad Cau Gwaith Cwrs (ar gael yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd).
- Anfonwch eich ffurflen a’ch tystiolaeth (neu ddatganiad effaith) at Estyniadau@aber.ac.uk.
- Gwnewch gais cyn y dyddiad cau - ni dderbynnir ceisiadau wedi’r dyddiad cau.
- Bydd ceisiadau a wneir llai na 3 diwrnod gwaith cyn y dyddiad cau fel arfer yn cael eu hystyried o dan Amgylchiadau Arbennig, oni bai bod eich problem wedi codi yn ystod y cyfnod hwnnw.
Sut Caiff Hyd yr Estyniad ei Benderfynu?
- Fel arfer, mae estyniadau’n cyfateb i’r amser a gollwyd wrth weithio ar yr asesiad.
- Ystyrir amseru, hyd a difrifoldeb yr amgylchiadau.
- Mae estyniadau’n cynnwys penwythnosau a gwyliau, felly gall eich dyddiad cau newydd ddigwydd ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod gwaith.
- Os yw’ch amgylchiadau’n rhy ddifrifol i gwblhau’r gwaith ymhen 14 diwrnod, fe gewch eich cyfeirio at wneud cais am Amgylchiadau Arbennig.
Beth Sy’n Digwydd Nesaf?
- Bydd y Gyfadran yn adolygu eich cais.
- Byddwch yn derbyn penderfyniad drwy e-bost cyn pen 3 diwrnod gwaith.
- Os caiff ei gymeradwyo, byddwch yn cyflwyno ar yr un amser o’r dydd â’r dyddiad cau gwreiddiol (e.e. 3:00 yh).
- Os oes angen mwy o dystiolaeth, gofynnir i chi ei darparu cyn y dyddiad cau gwreiddiol.
Beth all Gwasanaeth Cynghori Undeb Aber ei Wneud i’ch Helpu?
Mae Gwasanaeth Cyngor Undeb Aber yn annibynnol ar y Brifysgol ac yn cynnig gwasanaeth am ddim, cyfrinachol ac annibynnol i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Gall y Gwasanaeth Cyngor eich helpu mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- Trafod eich amgylchiadau’n gyfrinachol naill ai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy e-bost.
- Adolygu unrhyw ddatganiadau drafft rydych chi’n eu paratoi a chynnig cyngor.
- Mynd â chi i unrhyw gyfarfodydd i roi cefnogaeth a chynrychiolaeth.
- Helpu i gasglu tystiolaeth briodol i gefnogi eich achos.
I wneud apwyntiad i drafod eich holl opsiynau, gan gynnwys pa gymorth sydd ar gael i chi, cysylltwch â ni.
Cysylltwch ậ Chynghorydd
Cofiwch: Allwn ni ond eich helpu os ydych yn dweud wrthym beth sy’n digwydd.
Dolenni defnyddiol: