Amgylchiadau Arbennig: Rydyn ni yma i’ch cefnogi
Rydyn ni’n deall nad oes wybod beth ddaw mewn bywyd ac weithiau gall pethau y tu hwnt i’ch rheolaeth effeithio ar eich astudiaethau. Os caiff rhywbeth annisgwyl effaith ar eich gallu i gwblhau gwaith cwrs neu sefyll arholiad, mae gan y Brifysgol broses i sicrhau eich bod yn cael eich trin yn deg. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd oherwydd salwch, problemau personol, neu ddigwyddiadau annisgwyl eraill, mae’r Brifysgol ac Undeb Aber yma i’ch cefnogi.
Beth yw Amgylchiadau Arbennig?
Amgylchiadau arbennig yw digwyddiadau neu broblemau annisgwyl nad oes modd eu rheoli sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi gwblhau asesiadau, mynychu arholiad neu berfformio fel arfer.
Enghreifftiau:
- Salwch neu anaf
- Profedigaeth neu resymau tosturiol eraill
- Dioddef oddi wrth drosedd
- Problemau ariannol neu dai
Nid yw’n cynnwys:
- Problemau cyfrifiadur neu argraffu
- Diffyg mynediad at adnoddau
- Cael mwy nag un dyddiad cau ar yr un diwrnod
- Cael y deunydd yn anodd neu beidio â gwybod sut i ateb cwestiwn
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau adran (e.e. gemau argyfwng, perfformiadau, teithiau astudio)
- Ymrwymiadau nad ydynt yn academaidd (e.e. hyfforddiant milwrol gwirfoddol)
Sut galla’ i wneud cais?
Mewngofnodwch i’ch Cofnod Myfyriwr a chwblhewch y ffurflen ar-lein ‘Amgylchiadau Arbennig’.
Rhowch atebion clir a manwl.
Eglurwch sut cafodd eich amgylchiadau effaith ar asesiadau penodol. Manylwch, gan roi dyddiadau ac effaith. Er enghraifft:
“Allwn i ddim cwblhau fy asesiad oherwydd i fi fod yn yr ysbyty rhwng 8–12 Rhagfyr 2025.”
“Bues i’n sâl yn ystod yr arholiad ar 14 Ionawr 2026 ac allwn i ddim perfformio fel arfer.”
“Rown i’n mynychu angladd ar 11 Tachwedd ac roedd angen teithio adre, felly allwn i ddim gweithio ar fy asesiad y diwrnod cyn nac ar ôl oherwydd teithio.”
Uwchlwythwch dystiolaeth gefnogol os oes modd (e.e. nodiadau meddygol, llythyrau diagnosis, llythyrau gan wasanaethau cymorth, tystysgrifau marwolaeth, cadarnhad gan Undeb y Myfyrwyr os collwyd asesiad oherwydd cynrychioli’r Brifysgol mewn digwyddiad chwaraeon swyddogol).
Os yw myfyriwr wedi bod mewn cysylltiad parhaus ag un o’n Cynghorwyr mewn cyfnod anodd, gallwn ni ddarparu llythyr i gadarnhau natur ein cysylltu â’r myfyriwr a’r materion a gyflwynwyd. Yn anffodus, ni allwn ddarparu llythyrau ar gyfer myfyrwyr oni bai eu bod yn hawlio amgylchiadau arbennig yn ystod yr un cyfnod ag y maent wedi bod yn defnyddio ein gwasanaethau.
- Os na allwch ddarparu tystiolaeth, eglurwch pam, gan roi manylion llawn am yr amgylchiadau a’r effaith ar eich gallu i gwblhau’r gwaith erbyn y dyddiad cau.
- Os caiff tystiolaeth ei gohirio, eglurwch hyn a’i huwchlwytho cyn gynted â phosibl.
Os yw eich sefyllfa’n gysylltiedig â rhywun arall (e.e. aelod o’r teulu neu ffrind), ceisiwch ddarparu tystiolaeth sy’n dangos sut effaith gafodd arnoch chi. Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth ar ran rhywun arall, bydd angen eu caniatâd ysgrifenedig arnoch chi hefyd.
Cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl a chyn diwedd y cyfnod asesu.
Rhaid i chi gyflwyno ffurflen newydd ar gyfer pob modiwl a effeithiwyd ganddo.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Aiff eich cais i Banel Amgylchiadau Arbennig y Gofrestrfa, sy’n cyfarfod yn rheolaidd.
- Fel arfer, cewch ateb ymhen 15 diwrnod gwaith. Os bydd oedi, byddant yn rhoi gwybod i chi.
Canlyniadau Posibl:
- Derbyniwyd
- Os methwch fodiwl, efallai y cewch ailsefyll am ddim, heb gyfyngiad ar y marc.
- Nodyn: Mae cosbau UAP (Ymarfer Academaidd Annerbyniol) yn drech na hyn.
- Gwrthodwyd
- Cewch e-bost yn egluro pam.
- Gallwch gyflwyno ffurflen newydd os oes gennych wybodaeth wedi’i diweddaru.
- Angen Mwy o Wybodaeth
- Gofynnir am fanylion ychwanegol.
- Anfonwch nhw o fewn 15 diwrnod gwaith neu cyn diwedd y cyfnod asesu (pa un bynnag sy’n gyntaf).
Cymeradwyaeth Derfynol
Cyn cadarnhau canlyniadau, mae Panel Amgylchiadau Arbennig y Senedd yn adolygu pob achos i sicrhau tegwch a chysondeb.
Beth all Gwasanaeth Cynghori Undeb Aber ei wneud i’ch helpu?
Mae Gwasanaeth Cyngor Undeb Aber yn annibynnol ar y Brifysgol ac yn cynnig gwasanaeth am ddim, cyfrinachol ac annibynnol i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Gall y Gwasanaeth Cyngor eich helpu mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- Trafod eich amgylchiadau’n gyfrinachol naill ai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy e-bost.
- Adolygu unrhyw ddatganiadau drafft rydych chi’n eu paratoi a chynnig cyngor.
- Mynd â chi i unrhyw gyfarfodydd i roi cefnogaeth a chynrychiolaeth.
- Helpu i gasglu tystiolaeth briodol i gefnogi eich achos.
I wneud apwyntiad i drafod eich holl opsiynau, gan gynnwys pa gymorth sydd ar gael i chi, cysylltwch â ni.
Cysylltwch ậ Chynghorydd
Cofiwch: Allwn ni ond eich helpu os ydych yn dweud wrthym beth sy’n digwydd.
Dolenni defnyddiol: