Eich Undeb Myfyrwyr
Dan arweiniad myfyrwyr, gyda chymorth tîm o staff, mae Undeb y Myfyrwyr am i fyfyrwyr Aber fwynhau bywyd fel myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth. Rydyn ni'n gweithio i sicrhau bod myfyrwyr Aber yn cael taith anhygoel, eu bod yn hapus, yn iach a bod ganddyn nhw'r grym i newid pethau, ac yn gadael gyda ffrindiau am oes a dyfodol disglair o'u blaen.
Mae holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn aelodau awtomatig o UMAber (Undeb Myfyrwyr AU y Flwyddyn, UCM Cymru 2016-17). 
Fel Undeb Myfyrwyr, rydym wedi ymrwymo i'r canlynol 
	- Paratoi myfyrwyr at eu hantur nesaf
 
	- Rhoi'r gair olaf i fyfyrwyr bob tro
 
	- Helpu myfyrwyr i fod mor hapus ac iach â phosib
 
	- Tyfu gyda'n gilydd gyda myfyrwyr fel teulu Aber    
 
Caiff yr addewidion hyn eu gwireddu drwy ddarparu myfyrwyr ag amrywiaeth o fanteision a chyfleoedd i gyfranogi, gan gynnwys:
	- Helpu myfyrwyr i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau ac adeiladu cymunedau.
 
	- 130 o glybiau chwaraeon a chymdeithasau - gan gynnwys cymdeithas y myfyrwyr ôl-raddedigion a chymdeithasau academaidd, neu gyfle i ddechrau eich grwp eich hun.
 
	- Cynorthwyo, hyfforddi a gweithio gyda dros 300 o gynrychiolwyr academaidd i greu effaith cadarnhaol i fyfyrwyr ar lefel cwrs
 
	- Cyngor cyfeillgar, diduedd a chyfrinachol yn rhad ac am ddim
 
	- Llais sy'n cynrychioli holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
 
	- Cyfleoedd i fyfyrwyr ymgyrchu ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw
 
	- Mannau addas ar gyfer astudio, cyfarfod a chymdeithasu
 
Er mai'r Brifysgol yw ein prif gyllidwr, elusen annibynnol yw UMAber sy'n gweithio er budd myfyrwyr, gan ganolbwyntio ar weithgareddau'r aelodaeth a datblygiad myfyrwyr.