Ein haddewid: “darparu cyfleoedd i chi ddod o hyd i’ch cymuned Aber”

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

“Wythnos Undeb Aber yn Dathlu” yw’r wythnos hon - y cyfle GORAU un i ddathlu popeth sy’n ymwneud â myfyrwyr Aber a byddwn yn dathlu’r rhain fesul Addewid Undeb Aberystwyth.

Rydym am gynnig y cyfle i chi roi tro ar rywbeth newydd, mwynhau diddordebau, cymdeithasu a gwneud ffrindiau ystyrlon oes a bod yn rhan o rywbeth mwy.

Heddiw byddwn ni’n edrych yn ôl dros rai ffyrdd rydyn ni wedi “darparu cyfle i chi ddod o hyd i’ch cymuned Aber” y flwyddyn academaidd hon:

  • Yn ystod y flwyddyn academaidd 2023-2024, cymerodd 60% o fyfyrwyr Aberystwyth ran yng ngwasanaethau, gweithgareddau a/neu grwpiau Undeb Aber.
  • Mae 47% o fyfyrwyr Aber yn aelodau Tîm Aber; ein cymuned o 45 o glybiau chwaraeon, 100 o gymdeithasau a 5 prosiect gwirfoddoli.
  • Yn ystod tridiau ein Ffair y Glas, rhoddwyd croeso i 173 o stondinau i Ganolfan y Celfyddydau yn ystod Wythnos y Croeso (134 o stondinau clwb chwaraeon a chymdeithas a 39 o elusennau/busnesau).
  • Fel rhan o’n rhaglen Helo Aber o ddigwyddiadau croesawu bu sesiynau Cwrdd a Chyfarch oedd yn gyfle i fyfyrwyr newydd gwrdd â myfyrwyr o’r un anian: daeth 325 myfyriwr/wraig i un o’n 10 sesiwn cwrdd a chyfarch yn ystod cyfnod y Glas fis Medi.
  • Cynhaliodd ein grwpiau 23 o sesiynau ‘Rhowch Gynnig Arni’ yn ystod cyfnod y Glas fis Medi a 13 o sesiynau ‘Rhowch Gynnig Arni’ yn ystod Reffreshars ddiwedd Ionawr. Rhestrwyd pob un o’r rhain ar adran ddigwyddiadau gwefan UMAber.
  • Manteisiodd 193 myfyriwr ar y cyfle i fynychu un o’r teithiau a drefnwyd eleni; o bigo pwmpenni i trip Ikea ac o’r Ty Glöyn Byw i “Winter Wonderland” Caerdydd.
  • Eleni, cynhaliwyd yr Eisteddfod Ryng golegol yn Aberystwyth lle daeth dros 700 o fyfyrwyr o wahanol brifysgolion ledled Cymru i gystadlu am gipio tarian yr eisteddfod am y flwyddyn... a braint o’r mwyaf oedd ennill y teitl am yr ail flwyddyn yn olynol.
  • Caed 490 o enwebiadau ar gyfer y Gwobrau Chwaraeon a Chymdeithasau eleni: yn dathlu’r gymuned amrywiol o grwpiau myfyrwyr yma yn Aberystwyth.
  • Eleni, croesawom 62 o dimau rygbi (dros 750 o chwaraewyr) i Flaendolau ar gyfer penwythnos Aber7s. Gyda dros 500 o wylwyr hefyd yn ymuno i ddangos cefnogaeth.

 

Darllenwch mwy yma:

Crynodeb Tymor 2

Crynodeb BUCS tymor 1

Eisteddfod Ryng Golegol 2025

 

 

#UndebAberCelebrates #UndebAberYnDathlu

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576