Wythnos Arian Myfyrwyr: Cynghorau Swyddogion

officer blogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Wythnos Arian Myfyrwyr – Cyngor y Swyddogion ar Gostau Byw

Oes gennych chi gyngor ar arbed arian oedd o help mawr i chi yn fyfyriwr?

Ffion - Gall rhannu bwyd gyda’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw helpu, bara a llaeth er enghraifft. Mae gwneud eich cinio eich hunan at y campws bob tro o fudd. 
Millie - Gwnewch restr siopa cyn mynd neu beryg i chi brynu rhyw bethach diangen. Cofiwch taflu golwg dros y bargeinion rhad neu fynd ar ôl labeli melynion mewn siopau fel M&S i gael hyd i bethau gwell eu hansawdd am fargen.  
Esperanza - Cynlluniwch eich prydau. Does dim rhaid cynllunio’n benodol ond bod gennych syniad cyffredinol o’r pethau yr hoffech chi eu bwyta yn y dyddiadau canlynol. Wedyn gallwch greu prydau gwahanol gan fanteisio ar gynhwysion tebyg. 
Tanaka - Cadwch arian mân wrth gefn at argyfwng, a pheidiwch â meddwl amdano (ychydig bach fel cyfrif cynilo). 
Nanw- Cofiwch eich Tesco Clubcard.

Eich hoff bryd ‘rhad’ i’w goginio? 
Ffion - Pasta a saws. Daeth y pasta, y saws a’r blasau i £5 rhwng popeth, felly £1 y pryd oedd hi yn y diwedd. 
Millie - Rhaid mai pasta pesto fyddai fy hoff bryd rhad sydyn gyda thoreth o gaws ar ei ben.  
Esperanza - Nŵdls cig eidion teriyaki. 
Tanaka - Cyri cyw iâr gyda reis a brocoli wedi’i stemio. 
Nanw - Pasta – rhad a blasus 

Comments

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576