Enw: Tanaka P. Chikomo
Swydd: Cydlynydd Cymunedau Ffydd a Rhyngwladol
Ble mae dy gartref? Zimbabwe, Affrica Ddeheuol
Cyflwyniad byr:
Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen? Cyw iâr rhost braf a llysiau â reis a menyn pysgnau a sadza a sbigoglys. A browni clasurol â hufen iâ fanila i bwdin.
Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau? Dwi wrth fy modd yn adrodd straeon trwy ganu, comedi, rapio, barddoni, ymlacio â ffrindiau a threulio amser tawel mewn gweddi.
Beth wyt ti’n ei garu am weithio yn Aberystwyth? NEU beth wyt ti’n gobeithio ei wneud yn ystod dy fisoedd cyntaf? (os yn berthnasol) Dwi’n gobeithio adnabod profiadau byw myfyrwyr a chyrraedd y rheiny a all greu newid er budd eu ffydd a’u cymunedau rhyngwladol.
Pe taset ti ddim yn dy rôl gyda’r Undeb... beth fyddet ti’n ei wneud? Byddwn ar gwydr fel cyfreithwraig, yn galluogi pobl ifanc i feithrin eu galluoedd creadigol a gweithio ar ymgyrchoedd sy’n hybu heddwch.
Cyn gweithio yma, oeddet ti wedi cael llawer o gysylltiad ag undeb y myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr? Bues i ynghlwm â chymdeithasau myfyrwyr ers i fi ddod i’r Brifysgol a bues i’n swyddog gwirfoddol, swyddog sabothol, cynrychiolydd academaidd, mentor cyfoedion, ac yn fyfyriwr llysgennad sydd wedi cynnwys gweithio â myfyrwyr.
Rho ffaith ddiddorol neu randwm amdanat ti dy hun i ni...(rhywbeth a allai synnu pobl o’i glywed): Ieithgarwraig gerddorol ydw’i, felly gall fy acen a fy nhraw newid yn dibynnu ar ba iaith rwy’n ei siarad a gyda phwy rwy’n siarad.
Pam wnest ti ymuno â’r tîm yma yn Undeb Aber? Dwi’n teimlo’n angerddol erioed tuag at feithrin ymdeimlad dyfnach o berthyn i fyfyrwyr o grwpiau lleiafrifoledig a hwn oedd y cyfle perffaith i gyfrannu er budd y fenter hon. Mae myfyrwyr ffydd a myfyrwyr rhyngwladol â’u profiad byw unigryw eu hunain ac mae’r brifysgol eisoes yn gofyn llawer. Mae creu mannau iddynt eu trefnu eu hunain ac i gael hyd i eraill â chredoau cyffredin o help mawr gan fod angen cymuned arnom i gyd!
Unrhyw beth arall? Dwi’n falch o fod o Zimbabwe, ac dwi’n ddiolchgar fy mod wedi cael profiad o sut mae gwahanol ddiwylliannau yn mynegi eu hunain a’u cariad at eu traddodiadau a’u gwreiddiau!
Diolch yn fawr! a dyma ddymuno pob llwyddiant yn y swydd newydd!