Sbotolau ar Molly Jezebel Sutton - Cynghorydd Myfyrwyr

cyflwynoteuluumwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

DEWCH I GWRDD Â THÎM YR UM

Dros yr Haf, mae'n bryd i ni fel Undeb Myfyrwyr edrych yn ôl ar y flwyddyn sydd newydd fod, paratoi i groesawu myfyrwyr newydd a chyfredol i Aber ym mis Medi a rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer 2020-2021.

Mae misoedd yr haf hefyd yn amser i groesawu a hyfforddi timau swyddogion newydd yn barod ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn cynorthwyo'r tîm swyddogion mae teulu o staff UM sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod myfyrwyr Aberystwyth yn cael cyfle i garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth.

Rydym yn bwriadu manteisio ar y cyfle dros yr ychydig fisoedd nesaf i gyflwyno teulu UMAber - sydd i gyd yma i chi os ydych chi angen cymorth, cyngor neu sgwrs.


Sbotolau ar Molly Jezebel Sutton - Cynghorydd Myfyrwyr

Ble mae dy gartref?

Machynlleth

 

Dyweda ychydig wrthym amdanat ti dy hun:

Astudiais Waith Ieuenctid a Chymunedol yn y Brifysgol ac yna es ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o leoliadau; cyn y rôl hon roeddwn yn gweithio ar brosiect yn mynd i’r afael â Thlodi’r Misglwyf ym Manceinion.

 

Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?

Twmplenni Momo

 

Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?

Cymdeithasu, mynd i gigs a mynd ar wyliau, coginio a gwneud coctels!

 

Beth wyt ti’n ei garu am weithio yn Aberystwyth?

Rwyf wrth fy modd yn gyrru i'r gwaith yn y bore, gan weld y bryniau a'r môr

 

Pe bai ti ddim yn dy rôl gyda’r UM... beth fyddet ti’n ei wneud? Helpu pobl mewn rôl arall yn rhywle.

 

Pa ran / rhannau o dy swydd wyt ti’n eu mwynhau fwyaf? Helpu myfyrwyr gydag amrywiaeth eang o faterion.

 

Cyn gweithio yma, oeddet ti wedi cael llawer o gysylltiad ag undeb y myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr? Nid gydag undebau myfyrwyr, ond roeddwn i'n arfer gweithio i goleg chweched dosbarth, felly mae gen i brofiad o weithio gyda myfyrwyr iau.

 

Mae UMAber... yn lle gwych i weithio ynddo.

Mae mwy i UMAber… na dim ond bar!

 

Dyweda wrthym ffaith ddiddorol amdanat ti dy hun (rhywbeth y bydd pobl yn synnu ei glywed):

Cymerais ran yn The Vagina Monologues pan oeddwn i’n 14 oed!

 

Pam wnest ti ymuno â'r tîm yma yn UMAber?

Roedd pobl bob amser yn siarad am 'hiraeth' pan oeddwn yn iau, a doeddwn i ddim yn deall hyn yn iawn nes i mi adael Cymru (fe dyfais i fyny ar benrhyn Llyn).

 

Unrhyw beth arall i'w ychwanegu?

Mae croeso i chi alw heibio a dweud helo neu anfon e-bost ataf os oes angen unrhyw beth arnoch chi.

Comments

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576