Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn ofyn:
Ble ydw i’n codi fy allwedd?
Os wyt ti’n aros yng Nghwrt Mawr, Rosser neu Drefloyne, mae modd i ti godi dy allwedd oddi wrth Lofa Rosser. Os mai byw yn Fferm Penglais wyt ti, galli gasglu oddi wrth y Sgubor ar bwys i flociau Fferm. Os wyt ti’n byw ym Mhentre Jane Morgan, galli ddod i’w nol o lolfa Pentre Jane Morgan. Casglir allweddi Pantycelyn yn Neuadd Pantycelyn.
Chaiff y Brifysgol roi’r allwedd i ti yn unig, y preswylydd.
Sut/Pryd byddaf yn cofrestru?
Cei di gofrestru pan fydd y dasg yn ymddangos ar dy gofnod myfyriwr, rwyt ti’n mynd arno gyda dy gyfeiriad e-bost myfyriwr a dy gyfrinair. Rhag-gofrestru yw pryd cei di ddewis dy modiwlau, a ddaw trwy e-bost â’r holl wybodaeth ar ôl cwblhau y cofrestru.
Sut ydw i’n cyrraedd y campws?
O’r dref, galli un ai gerdded lan allt Penglais neu fynd ar y bws. Mae’r bysus yn rhedeg bob awr o’r safle bws wrth ymyl Wetherspoons y dre. Ceir hefyd reng tacsis ar bwys i’r orsaf drenau.
Ble gallaf fwyta/siopa?
Mae siop lle gellir prynu bwyd yn adeilad yr Undeb ar y campws. Mae hefyd y Neuadd Fwyd neu gaffi Canolfan y Celfyddydau. Mae modd i ti siopa yn CKs sef y siop agosaf at lety’r brifysgol, er ei bod yn ddrutach na siopa yn y dref, lle galli fynd i Lidl, Tesco, M&S neu Morrisons hyd yn oed.
Os wyt ti eisiau bwyta allan, mae tipyn o ddewis o ran bwyd yn Aber. Mae digonedd o lefydd i gael brecwast fel y Gornel, Sophie’s, Little Devil, … Mae modd i ti fynd am tapas yn Ultracomida, cael bwyd y Canolfor ym Medina neu Blas Arabaidd, neu fwynhau bwyd figanaidd yn Dragonfly Bistro.
Sut mae cwrdd â phobl?
Y ffordd orau o wneud ffrindiau yn Aber yw ymaelodi â chlwb neu gymdeithas. Bydd gennyt ti ddiddordeb cyffredin â’r aelodau eraill, felly dyna fan cychwyn da wrth gysylltu â phobl! Mae hefyd modd i ti wneud hyn trwy fynychu digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch yr Undeb i ddod o hyd i unigolyn eraill o’r un anian, neu drwy fynychu ein