SHAG (Ymwybyddiaeth a Chyngor ar Iechyd Rhywiol) Mae'r wythnos yn fwy nag agosatrwydd corfforol yn unig, ond gall agwedd ohoni hefyd fod yn berthynas, cyfathrebu, mae'r pum iaith garu yn bum ffordd wahanol o fynegi a derbyn cariad:
- Gweithredoedd o wasanaeth,
- Rhoddion,
- Cyffyrddiad corfforol,
- Treulio amser ystyrlon,
- Geiriau o gadarnhad.
Mae'n bwysig deall nad yw pawb yn cyfathrebu nac yn dangos cariad yn yr un ffordd.
Datblygwyd y syniad hwn gan Gary Chapman, ei theori oedd bod pobl yn naturiol yn rhoi cariad yn y ffordd y mae'n well ganddynt dderbyn cariad, gellir cyflawni gwell cyfathrebu pan all rhywun ddangos ystyriaeth o iaith garu rhywun arall.
👉🏼 https://www.umaber.co.uk/newidaber/ymgyrchoedd/wythnosshag/
Gweithredoedd o wasanaeth
Os mai gweithredoedd o wasanaethu yw eich iaith garu chi, efallai eich bod chi’n gwerthfawrogi’n fawr unrhyw weithredu i wneud eich bywyd yn haws gan eich partner, boed iddi fod mor syml â gwneud coffi i chi yn y bore. “Dyma iaith garu y rheini sy’n credu mai gwneud nad dweud sydd bwysicaf”
- Sut mae cyfathrebu: Dweud pethau fel “wna’ i helpu”, maent eisiau gwybod eich bod yn gefn iddynt.
- Camau i’w cymryd: Gwnewch weithredoedd gyda’ch gilydd. Mynd i ymdrech i wneud eu diwrnod yn haws.
Rhoddion
Os mai anrhegion yw eich iaith garu, ystyrir y byddwch yn teimlo cariad pan fydd eraill yn rhoi ‘symbolau gweledol o gariad’, nid y gwerth ariannol sydd bwysicaf yn hytrach na’r symboliaeth a’r gwerth emosiynol. “Dyma iaith garu y rheini sy’n credu y gall pethau ymgorffori teimladau”.
- Sut mae cyfathrebu: Meddylgarwch sydd wrth wraidd, rhywbeth sy’n adlewyrchu eich amser gyda’ch gilydd neu’ch teimladau.
- Camau i’w cymryd: arwyddion ac anrhegion ystyrlon. Mawr yw ystyr y pethau bychain. Os mai chi sy’n cael anrheg, gwnewch yn siŵr eich bod yn dangos diolchgarwch.
Cyffyrddiad corfforol
Os mai cyffwrdd yw eich iaith garu, mae’n debyg eich bod yn teimlo cariad ar ei fwyaf drwy arwyddion corfforol o gariad, gall hyn gael effaith gadarnhaol a magu cysylltiad emosiynol cryf. “Dyma iaith garu y rheini sy’n gwerthfawrogi teimladau o gysur a chynhesrwydd”.
- Sut mae cyfathrebu: heb eiriau (ond gyda chaniatâd llafar), defnyddio iaith y corff a chyffyrddiad i ddangos cariad.
- Camau i’w cymryd: dangoswch gariad mewn ffordd gorfforol yn rheolaidd, cofiwch mai cyfathrebu a chaniatâd sydd bwysicaf.
Treulio amser ystyrlon
Os mai treulio amser ystyrlon yw eich iaith garu, efallai y byddwch chi’n teimlo cariad pan fydd eich partner yn rhoi o’u hamser i chi. Gwrando’n astud, edrych i fyw llygaid a bod yn bresennol sydd bwysicaf. “Dyma iaith garu y rheini sy’n prisio cael eu clywed uchaf”.
- Sut mae cyfathrebu: Sgwrsio heb dorri ar draws eich gilydd. Mae amser preifat ac agos yn hollbwysig.
- Camau i’w cymryd: Gwnewch amser i’ch gilydd, gwnewch bethau sy’n gwneud y gorau o’r amser a dreulir gyda’ch gilydd.
Geiriau o gadarnhad
Os mai geiriau o gadarnhad yw eich iaith garu, byddwch chi’n debyg o werthfawrogi cydnabyddiaeth llafar o gariad, canmoliaeth, geiriau o gadarnhad ac o anogaeth. “Dyma iaith garu y rheini y mae’r gair llafar ac ysgrifenedig yn taro tant fwyaf”.
- Sut mae cyfathrebu: Annog, cadarnhau, gwerthfawrogi a chydymdeimlo. Mae gwrando’n astud hefyd yn bwysig.
- Camau i’w cymryd: anfon nodyn, tecst, cerdyn annisgwyl. Sylwadau cadarnhaol ac anogaeth go iawn sydd bwysicaf.