Gwobrau'r Staff a Myfyrwyr - Yr Enillwyr!
Ar y 3ydd o Fai cynhaliwyd Gwobrau Staff a Myfyrwyr blynyddol UM Aber. Roedd y noson yn gyfle i UM Aber ddathlu a diolch i aelodau staff, myfyrwyr wirfoddolwyr ac adrannau eithriadol sy’n gwneud Aberystwyth yn wych.
Dyma 11eg blwyddyn y gwobrau, ac rydym yn falch o fod wedi derbyn 742 o enwebiadau, yn amrywio o fyfyrwyr yn enwebu eu darlithwyr i gyd-fyfyrwyr yn enwebu eu cynrychiolwyr academaidd.
Roedd deg o gategorïau yn y gwobrau eleni, yn cydnabod staff, gwirfoddolwyr a chynrychiolwyr academaidd mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ar draws y brifysgol.
Enillwyr eleni oedd:
Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn:
Bethan Stewart
Adran y Flwyddyn:
School of Education
Darlithydd y Flwyddyn:
Val Nolan
Tiwtor Personol y Flwyddyn:
Niall McKeown
Athro Ôl-raddedig y Flwyddyn:
Andra Jones
Myfyriwr-Fentor y Flwyddyn:
Lauren Rebecca Middleton
Aelod Staff Myfyrwyr y Flwyddyn:
Rae Hughes
Myfyriwr-Wirfoddolwr y Flwyddyn:
Zoe Hayne
Goruchwyliwr y Flwyddyn:
David Ceri Jones
Aelod Staff Ategol/Gwasanaeth y Flwyddyn:
Karen Twinney
Mae ffotograffau swyddogol wedi'u hychwanegu at dudalen Facebook UMAberSU felly ewch i edrych, tagiwch eich hun neu eich adran!
#UMAberYnDathlu