Gwasanaeth Bws i Fferm Penglais Yn Sgil Ymgyrch Undeb y Myfyrwyr Llwyddiannus
O fis Medi ymlaen, wedi ymgyrchu cyson gan Undeb Aberystwyth i gefnogi gwella trafnidiaeth cyhoeddus i fyfyrwyr yn llety Fferm Penglais ym Mhrifysgol Aberystwyth, bydd Mid Wales Travel yn dechrau treialu y gwasanaeth 301, a fydd yn galw yn Fferm Penglais bedair gwaith y dydd, gan greu cysylltiad uniongyrchol rhwng safle’r llety a Morrisons.
Meddai Tanaka Chikomo, Swyddog Lles yr Undeb:
“Dyma fuddugoliaeth wirioneddol i fyfyrwyr ac yn gam ystyrlon ymlaen tuag at wella hygyrchedd, gan ddarparu dewis pwysig a fforddiadwy i fyfyrwyr Fferm gyrraedd y dref yn uniongyrchol.”
Rhedir y prawf o ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd a bydd y defnydd a geir arno yn helpu penderfynu a ddaw y gwasanaeth yn un parhaol.