Erthygl Crynodeb Nanw 2025–2026

officerblogwelsh

Er ei bod hi’n ddiwedd cyfnod blwyddyn a mwy imi o fod yn rhan o UMCA, mae hi’n anodd iawn edrych yn ôl ar y cyfnod hwnnw gyda thristwch. Yn fwy na dim, rwy’n teimlo’n ffodus iawn o gael bod yn Lywydd ar UMCA dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn ffodus hefyd o’r profiadau rwyf wedi’u cael yn sgil hynny.

Fel bob blwyddyn, roedd y digwyddiadau Rhyng-golegol yn rhai o’m uchafbwyntiau, boed hynny’n croesawu myfyrwyr Cymru a thu hwnt i Aberystwyth yn y Ddawns i godi’r darian Ryng-gol ar ôl penwythnos hir yn yr Eisteddfod ym mis Mawrth. Tu hwnt i hynny, cefais lu o brofiadau gwerthfawr yn teithio ar hyd Cymru a phellach, o’r gynhadledd gyntaf un ym Mangor ym mis Gorffennaf llynedd, i'r gynhadledd AMLÉ yng Nghorc gyda’m cyd-lywyddion ac yna dathliad diwedd blwyddyn NUS Cymru yng Nghaerdydd lle llwyddodd Undeb Aberystwyth i ennill Undeb y Flwyddyn.

Ar ben hynny, rwy’n falch o’r cyfle i roi newidiadau parhaol ar waith drwy’r gwaith cyfansoddiadol o lunio is-ddeddf swyddogol UMCA, sef y ddogfen swyddogol gyntaf sydd gan UMCA, gan obeithio y bydd y gwaith cychwynnol hwn yn gosod seiliau cadarn ar gyfer perthynas gyd-fuddiol rhwng UMCA a’r Undeb am flynyddoedd i ddod. 

Braint hefyd oedd gweld ffrwyth fy mhrosiect i nodi deng mlynedd ers ymgyrch Achub Pantycelyn, sef y gwaith celf o farddoniaeth wreiddiol i'r neuadd gan Mererid, Eurig, Hywel a finnau. Rwy’n ddiolchgar iawn i staff yr Adran Llety am eu holl waith wrth sicrhau bod y darnau’n cael eu gosod ar waliau’r neuad, yn ogystal â’u cefnogaeth ar hyd y blwyddyn yn ehangach.

Hoffwn yn hefyd estyn diolch i'r rheiny o’r Undeb a’r Brifysgol sydd wedi gweithio gyda mi dros y flwyddyn ddiwethaf. Ar ôl symud o fod yn fyfyriwr i aelod o staff, mae persbectif yn newid ac agorwyd fy llygad dros y flwyddyn ddiwethaf i'r gwaith caled ac ymrwymiad sydd i'w weld tu ôl i'r llen i'r Gymraeg, ein prifysgol a chymuned Aberystwyth.

Hoffwn ddiolch yn enwedig i'm pedwar cyd-swyddog – Millie, Espe, Ffion a Tanaka – sydd wedi bod yn gefn dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae hi wedi bod yn fraint cael dod i'ch adnabod chi a gweld ffrwyth eich gwaith caled er lles myfyrwyr Aber.

Mae’r diolch mwyaf un yn mynd i Bwyllgor UMCA a’n haelodau. Mae eich cyfraniad i'n digwyddiadau, ymgyrchoedd ac, wrth gwrs, buddugoliaeth yr Eisteddfod Ryng-golegol wedi bod yn holl allweddol ac bu fy nghyfnod fel Llywydd yn bleser yn eich cwmni.

Bu profiadau’r flwyddyn ddiwethaf yn dyst imi i ba mor werthfawr yw profiad unigryw myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth. O’r ystafell ddarlith i Neuadd Pantycelyn, o’r cae chwarae i dafarndai’r dref, mae’r iaith Gymraeg yn fythol fyw yng ngenau ein myfyrwyr a dan y bygythiadau sy’n wynebu’r sector addysg uwch, mae’n allweddol ein bod yn parhau i gynnal a chefnogi cymunedau myfyrwyr Cymraeg ar hyd Cymru gan eu bod, yn fy marn i, yn rhan greiddiol o fodolaeth yr iaith heddiw.

Fy ngobaith yw fy mod i wedi gallu cyfrannu rhywfaint at y profiad unigryw hwnnw sydd wedi chwarae rhan ffurfiannol yn fy mywyd dros y pedair blynedd diwethaf.

Mae hi’n ddiwedd cyfnod imi, ond rwy’n edrych ymlaen i weld wynebau newydd wrth y llyw. Dwi’n dymuno’r gorau i Gwenno, y pwyllgor newydd ac aelodau UMCA i gyd dros y flwyddyn nesaf a mwy.

Hir oes i UMCA,

Nanw xoxo

Comments

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576