Wedi 5 mlynedd yn Aber, mae’n bryd i fi ddweud ffarwel a dydw’i ddim hyd yn oed yn gwybod ble i ddechrau. Wedi i fi ennill profiad fel ysgrifenyddes gymdeithasol ar y Gymdeithas Goctêls, daeth awydd cryf i ddysgu sut mae’r Undeb yn gweithio y tu ôl i’r llenni; a oedd yn un o’r rhesymau i fi fod eisiau sefyll am y rôl hon. Fe wyddwn i y byddai’n brofiad gwych ac ro’n i’n iawn. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi fy siomi ar yr ochr orau.
Wyddwn i ddim beth i’w ddisgwyl wrth ymgymryd â’r swydd hon, o gynnal digwyddiadau i bolisïau a blaenoriaethau, ro’n i’n nerfus ynglŷn â sut y byddwn i’n gallu cadw ar ben popeth. Ond diolch i staff anhygoel yr Undeb, daeth yn naturiol iawn. Flwyddyn yn ôl, ro’n i’n anymwybodol o fy holl gyfrifoldebau ac yn poeni am yr hyn na wyddwn i ond erbyn hyn, saff fyddai dweud fy mod i’n hyderus yn fy ngalluoedd fel swyddog. O’n hymgyrch gwrth-sbeicio i adroddiadau’r Senedd i gynnal Varsity, felly annisgwyl oedd y rhan fwyaf ohoni ond fe wnaeth fy mhrofiad fel swyddog yn unigryw ac arbennig.
Uchafbwyntiau fy mlwyddyn yw:
Cynnal Superteams - gwerthfawr iawn oedd cynnal un o ddigwyddiadau mwyaf y flwyddyn academaidd, un a disgwyl mawr amdano gan ein myfyrwyr. Er bod cynnal partïon wedi’r digwyddiadau wedi bod yn ddi-drefn braidd fe’u gwnaeth nhw yn fwy hwyliog a phleserus fyth. Wnes i ddim mwynhau y 45 awr o orweithio, ond roedd yn werth ei gwneud i fod yn rhan o’r digwyddiad.
Y Gwobrau Dathlu - Rhag ofn nad ydych chi wedi sylwi ar y thema, dwi wrthi fy modd yn cael bod ar y llwyfan. Ond mi oedd hyn wahanol. Roedd bod â rhan fawr yn y gwobrau Addysgu, Dysgu a Phrofiad y Myfyrwyr a chynnal y gwobrau Clybiau a Chymdeithasau yn brofiad gwych. Roedd yn digwyddiad i godi’r galon, yn cydnabod gwaith ac ymdrech galed ein holl fyfyrwyr eleni. Yn gweld grwpiau yn cael eu dathlu am ennill yn Varsity, eu digwyddiadau Codi a Rhoddi, a’u gwaith yn y gymuned leol.
Wrth i fi ddod â’r myfyrio ar fy mlwyddyn fel y Swyddog Cyfleoedd i ben, hoffwn ddiolch i’r holl fyfyrwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth eleni. Diolch i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi helpu mewn digwyddiadau eleni, ymrwymodd rhai ohonoch benwythnosau cyfan i helpu. Diolch i fy nghynrychiolwyr Chwaraeon, Cymdeithasau a Phrosiectau Gwirfoddoli Seneddol, diolch am fod ar ein Byrddau Cynghori ac am fod yn llais dros y myfyrwyr a diolch i’r Swyddogion Gwirfoddol y cefais i’r pleser o weithio gyda nhw ar fy ymgyrch tai a’n hymgyrch costau cudd eleni.
Hoffwn ddiolch eto, i staff yr Undeb ac i’r tîm swyddogion anhygoel. Allwn i ddim fod wedi cael grŵp gwell o ferched i rannu’r profiad hwn â nhw. Profiad heb ei ail oedd gweithio gydag Esperanza, Nanw, Millie a Tanaka a dwi mor falch o bawb ohonom.