Erthygl Crynodeb Esperanza 2025–2026

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Alla i ddim credu bod fy mlwyddyn fel y Swyddog Materion Academaidd yn dod i ben, mae’r amser wirioneddol wedi mynd heibio yn sydyn. Mae’r ychydig fisoedd diwethaf hyn wedi bod yn anhygoel, yn llawn profiadau arbennig a chynnydd personol cyson. Dwi’n ddiolchgar i bawb sydd wedi gwneud eleni mor hyfryd, yn enwedig i fy nghyd-swyddogion: Ffion, Tanaka, Nanw a Millie. Dwi mor ffodus o fod wedi cael y cyfle i weithio â thîm mor arbennig. 

Dwi’n hynod falch o bopeth rydyn ni wedi’i wneud eleni. O ymgyrchoedd llwyddiannus, i ddigwyddiadau anhygoel, does dim dwywaith iddi fod yn dipyn o brofiad. Amhosibl fyddai crynhoi’r flwyddyn gyfan mewn ychydig baragraffau yn unig, felly dwi am roi sylw i rai o’r uchafbwyntiau:

Ffioedd ailsefyll a Chyfyngiadau ar ailasesiadau: Wedi cydweithredu llawer â’r Brifysgol, fe gaf i ddweud o’r diwedd bod pethau cyffrous ar y gweill ynglŷn â chael gwared ar ffioedd ailsefyll a chyfyngiadau ar ailasesiadau. Dyma oedd y brif flaenoriaeth gen i fel Swyddog, gan fy mod i’n gwybod faint o wahaniaeth i fywydau myfyrwyr y byddai eu dileu yn ei wneud. Chaf i ddim datgelu llawer o’r hyn sydd ar droed, ond cadwch lygad am unrhyw ddiweddariadau gennym yn yr ychydig fisoedd nesaf!

Ymgyrch Costau Cudd: Dros y misoedd diwethaf hyn dwi wedi cael y pleser o fod yn rhan o grŵp ymgyrch Costau Cudd. Wedi i ni gael cyfarfod â’r Dirprwy Is-Ganghellor Academaidd dros Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr, mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gyhoeddi ar-lein yr holl gostau ychwanegol diweddaraf ynghlwm â Chyrsiau Aberystwyth. Buddugoliaeth fawr yw hon, gan y bydd myfyrwyr yn gwybod am unrhyw gostau cyn i’w cyrsiau ddechrau, a fydd yn caniatáu iddynt gynllunio yn ôl yr angen.

Yma a Thraws: Mae’r ymgyrch Yma a Thraws yn bolisi gweithredol ers tair blynedd. Roedd y polisi i ddod i ben eleni, ond oherwydd ei lwyddiant, mae’r Undeb wedi penderfynu ei gadw fel gwasanaeth lles craidd i fyfyrwyr. Mae’n rhaid pwysleisio yr effaith anhygoel y mae’r gwasanaeth wedi’i chael.

Gwobrau Addysgu, Dysgu a Phrofiad y Myfyrwyr: Roedd Noson Dathlu Gwobrau Addysgu, Dysgu a Phrofiad y Myfyrwyr yn llwyddiant. Roedd yn noswaith hyfryd o gydnabod gwaith rhagorol staff a myfyrwyr. Diolch i bawb a ddaeth ac am wneud Aber y gymuned anhygoel rydyn ni i gyd yn ei nabod ac yn ei charu.

Dwi am ddod â hyn i ben yn diolch i bawb sydd wedi gwneud y flwyddyn hon mor arbennig ag oedd hi. Dwi’n ddiolchgar iawn am gael y cyfle anhygoel o fod eich Swyddog Materion Academaidd. Byddaf yn cofio fy amser yma yn y rôl gyda gwên. 

Comments

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576