Rhybudd cynnwys: trafodir trawsffobia, homoffobia, a hunanladdiad.
Gofynnwyd i mi, fel unigolyn sy'n diffinio fel trawsryweddol, i ysgrifennu am fy mhrofiadau o fod yn wryw i fenyw (MtF) yn astudio ac yn byw yn Aberystwyth. Mewn ffordd, rwy’n meddwl am hyn fel anrhydedd i allu rhannu fy mhrofiadau, y rhai cadarnhaol a’r rhai negyddol, o fy nghyfnod yn Aber. Felly, i ffwrdd â ni.
Rwyf am siarad yn bennaf am rai o'r agweddau cadarnhaol yn gyntaf, a'r mwyaf o’r rhain yw pa mor barod i dderbyn mae cymuned y myfyrwyr o'm cyfnod trawsnewid, fy rhagenwau a’m hymddangosiad, gan nad wyf mewn gwirionedd yn edrych fel dynes. Mae'n galonogol iawn pan dwi'n teimlo'n ofnadwy bod fy ffrindiau'n cyfeirio ataf fel ‘hi’ neu maen nhw'n canmol sut rydw i'n edrych neu hyd yn oed dieithriaid yn fy ngalw'n ‘Hun’ - mae'n deimlad braf, yn enwedig pan fyddwch chi'n teimlo'n anghyfforddus neu fel nad ydych chi'n perthyn mewn lle penodol.
Mae fy narlithwyr ac aelodau staff cymorth myfyrwyr hefyd wedi bod o help mawr o ran fy nghyfeirio tuag at adnoddau defnyddiol neu fod yn rhywun i siarad â nhw pan rydw i wedi cael profiadau neu feddyliau gwael. Un o fy uchafbwyntiau oedd aelod o’r uwch-staff cymorth myfyrwyr yn arwyddo fy ffurflen DVLA er mwyn i mi allu newid fy nhrwydded yrru (hyd yn oed os oedden nhw’n cael y teitl yn anghywir).
Ac yn awr, yn anffodus, at y profiadau gwael. Meddygon yw'r gwaethaf. Gwrthododd fy meddygfa, hanner ffordd i fyny allt Penglais, drafod trawsnewid gyda mi, a rhwygodd fy meddyg cyntaf fy ffurflen atgyfeirio o’r Clinig Rhywedd o flaen fy llygaid. Diolch byth, roedd un o'r meddygon yn fodlon gwrando arnaf a llenwi'r ffurflen, ond dim ond ar ôl 3 neu 4 ymweliad a dogfennaeth ynghylch newid enwau, sesiynau gyda therapyddion a’r adran cymorth i fyfyrwyr. Ond oherwydd yr amser a wastraffwyd a chael fy nghamarwain, collais amser gwerthfawr y gallwn fod wedi bod yn trawsnewid.
Er fy mod wedi hanner canmol staff y Brifysgol, mae'n bryd nawr peidio â gwneud hynny a thrafod materion sydd wedi fy mhlagio ers rhai blynyddoedd. Roeddent yn mynnu bod athletwyr traws yn gwisgo eu dillad biolegol, yn unol â rheoliad BUCS, er gwaethaf rhybuddion y gall hyn achosi dysfforia ac arwain at hunanladdiad. Er nad wyf wedi clywed am unrhyw ddigwyddiadau uniongyrchol - oherwydd bod Covid wedi atal pob gweithgareddau diriaethol - nid wyf chwaith wedi clywed am unrhyw gamau a gymerwyd gan undeb myfyrwyr i ymladd a lobïo yn erbyn y trawsffobia hwn.
Roedd digwyddiad arall yn cynnwys aelod o staff yn fy ngalw yn ff*ggot, tuedd a fyddai’n parhau wrth i mi gerdded o gwmpas y campws yn y dillad yr wyf yn credu sy’n gweddu i mi, a chael fy mychanu fel “dynes ffug” a chael staff a myfyrwyr yn cyfeirio ataf fel dyn. Yn ôl pob tebyg, mae rhai aelodau staff yn ei chael hi'n anodd bod yn gynhwysol neu'n garedig pan rydych chi’n awyddus i deimlo'n llai dysfforig ac awydd lladd eich hun.
Yn anffodus, fel person ifanc hoyw / traws, roeddwn i'n ei chael hi'n anodd siarad am hyn gyda staff yr UM neu staff yn gyffredinol, oherwydd y sioc a'r dieithrio roeddwn i’n teimlo y gallai hyn ei achosi, yn enwedig gan fy mod yn pryderu y byddai difrifoldeb y digwyddiadau hyn yn cael ei israddio,
Wrth gwrs, mae'r profiadau hyn yn rhai a rennir gyda phobl eraill, ond mae rhai yn bersonol i mi, a dim ond fi. Cymerwch yr hyn a fynnwch o'r erthygl hon, ond gwn fod y rhan fwyaf o gymuned y myfyrwyr a rhai aelodau staff o leiaf yn barod i dderbyn ac yn hapus i'ch helpu.