Diweddglo 2024/25 Tiff

officerblogwelsh

Dyma rywbeth na feddyliais y byddwn erioed yn gorfod ei ysgrifennu. Ffarwelio â’r Undeb Myfyrwyr, ffarwelio â’r Brifysgol, ffarwelio â chwe mlynedd o’m bywyd, a ffarwelio â chi. Mae’r swydd hon wedi caniatáu i mi dynnu ar fy mhrofiad prifysgol a’i ddefnyddio er budd bywydau eraill, ac mae bob dydd wedi bod yn chwrligwgan.

Wrth edrych yn ôl ar fy amser fel swyddog, rwy’n teimlo mor falch, anrhydeddus, ac yn emosiynol. Nid bob dydd y ceir dod ar draws y swydd rydych chi eisiau ei gwneud am weddill eich oes, ac er gwaetha’r modd, chaf i ddim aros. Ond nid swydd yn unig yw hon – mae wedi bod yn bennod y cofiaf i o hyd. Braint oedd bod yn rhan o’ch straeon chi, ac i chi fod yn rhan o’m stori i.

Os byddai’n rhaid dewis uchafbwynt, ‘Trio yn Trio’ fyddai. Rwyf wedi cael cyfarfod cymaint o bobl a rhoi cynnig ar gymaint o wahanol bethau nad oedd gen i’r hyder i’w gwneud pan oeddwn yn fyfyriwr. Mae’r ffrindiau rwyf wedi eu gwneud yn ystod fy amser yma mor bwysig i mi, ac fyddaf byth yn anghofio unrhyw un ohonoch. Rwy’n methu â phenderfynu pa ddyfyniad i’w ddefnyddio i gloi, felly dyma ddau:

“Mor lwcus ydw i fod gennyf i rywbeth sy’n gwneud ffarwelio mor anodd.” – Winnie the Pooh

“Rydych wedi bod yn ffrindiau i mi. Mae hynny’n beth anhygoel yn barod.” – Charlotte’s Web

Comments

 
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576