Am flwyddyn llawn hwyl, ac rwy’n falch iawn o fod yn rhan o dîm mor arbennig. O godi ymwybyddiaeth ar sail Iechyd Meddwl a theithiau cerdded lles, i fod yn rhan o grwpiau gwneud penderfyniadau a bod yn Ymddiriedolwr yr Undeb – mae’r flwyddyn wedi bod yn llawn amrywiaeth, ac wedi bod yn wych gweld effaith uniongyrchol yr Undeb ar brofiad y myfyrwyr. I’w gadw’n gryno, byddaf yn canolbwyntio ar fy nhri hoff uchafbwynt, gan ystyried nid yn unig y pethau rwyf wedi mwynhau cymryd rhan ynddynt, ond hefyd y rhai sydd wedi o fudd i fi wrth dyfu fel person!
Yn gyntaf, codi ymwybyddiaeth o
anhwylder obsesiynol-gorfodaethol (AOG) trwy gynnal digwyddiadau a chreu fideos gydag Elain. Mae Elain a minnau’n frwd dros roi sylw i AOG, anhwylder iechyd meddwl y mae cymaint o gamsyniadau a stigma ynghlwm ag e. Fe wnaethom gynnal sesiwn ‘Ymlacio a Sgwrsio’ – man i bobl gwrdd â’u gilydd i rannu profiadau ac agor trafodaethau. Cawsom ddau siaradwr gwych: Non Parry, cantores Gymraeg o’r band Eden, a fu’n siarad am ei phrofiadau, a Victoria Wright, seicolegydd a darlithydd yn Aberystwyth, a drafododd ei hymchwil. Roeddwn mor falch o’r sgyrsiau a’r adborth a gawsom. Go brin y gwelir AOG yn cael ei drafod, ac roedd ymateb pawb yn dangos eu gwerthfawrogiad ein bod yn agor y drafodaeth.
Yn ail, sefydlu’r Bwrdd Ymgynghori i Fyfyrwyr Anabl a chynnal grŵp ffocws ar eu cyfer. Prif swyddogaeth swyddog yw cynrychioli lleisiau myfyrwyr, ac roedd creu’r bwrdd a’r sesiwn yn ymgorffori hynny. Roedd y sesiwn yn wych, gyda myfyrwyr yn cyfranogi’n frwd, a llwyddais i roi adroddiad cryf o’r drafodaethau at ei gilydd. Mae’r wybodaeth a gasglwyd wedi’i throsglwyddo i aelodau perthnasol o staff yr Undeb a’r Brifysgol. Diolch o galon i bawb a gymerodd ran – roedd eu gonestrwydd a’u natur agored ynghylch eu profiadau’n allweddol, ac rwy’n gwybod bod staff wedi gwerthfawrogi’r adborth ac yn ei ddefnyddio i wella gwasanaethau.
Yn drydydd, ailgynllunio ac adnewyddu’r ystafell les. Mae’r lle hwn yn wych i fyfyrwyr gymryd hoe o’u hastudiaethau a mwynhau hamdden. Er ei fod yn lle hyfryd, oedd eisiau tipyn o sylw arno, felly gyda chymorth tîm lles yr Undeb, fe wnaethom ei adnewyddu’n llawn. Gwnaethom y lle yn fwy rhyngweithiol gyda gweithgareddau a chrefftau, a chydweithio gyda Phyte Club, a roddodd blanhigion i wneud y lle’n fwy gwyrdd a chroesawgar.
Mae cynrychioli myfyrwyr a siarad mewn cyfarfodydd gydag uwch staff y Brifysgol wedi bod yn brofiad pwysig a chadarnhaol i mi. Rwy’n ddiolchgar iawn am gael fy ethol i’r swydd hon – rwyf wedi tyfu fel person ac wedi dysgu gwersi gwerthfawr ar hyd y ffordd!