Bythgofiadwy, llwyddiannus a phrysur. Dyma dri gair sy’n crisialu fy mlwyddyn olaf fel Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA. Mae’n anodd credu, wedi pum mlynedd amhrisiadwy yn Aberystwyth bod fy nghyfnod i yno’n dod i ben, ac yn wir fel y bu i sawl un fy rhybuddio i, mae’r blynyddoedd wir wedi hedfan heibio. Ond er fy mod yn gadael, fel sawl un arall bydd gan Aber ac UMCA le arbennig iawn yn fy nghalon am byth. Mae’n amhosibl imi grybwyll holl uchafbwyntiau’r flwyddyn yn yr erthygl hon, ond dyma gyfeirio at dri sy’n sefyll allan i mi.
Yn gyntaf heb os, yr Eisteddfod Ryng-golegol a gynhaliwyd yma’n Aberystwyth yng Nghanolfan y Celfyddydau ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni. Roedd cael y profiad o drefnu Eisteddfod i dros 700 o fyfyrwyr Cymraeg ar hyd a lled y wlad yn brofiad euraidd, ac yn gyfle imi ddatblygu nifer helaeth o sgiliau amrywiol a fydd yn bendant yn ddefnyddiol dros ben imi ar fy nhaith yrfaol. Yn goron ar y cyfan, llwyddodd UMCA i gadw’r darian Ryng-golegol yn Aber am flwyddyn ychwanegol, a hynny ar ôl trechu Bangor am y tro cyntaf ers naw mlynedd llynedd yn Eisteddfod Ryng-golegol Abertawe. Cefais hefyd y cyfle i drefnu gig ar ôl yr Eisteddfod ble daeth dros 800 o bobol i fwynhau noson yng nghwmni rhai o fandiau gorau’r Sin Roc Gymraeg sef Bwncath, Dros Dro (band sydd yn cynnwys aelodau UMCA ac enillwyr Cân i Gymru 2025) a TewTewTennau. Yn wir, bydd hi’n anodd iawn curo’r diwrnod hwnnw!
Er bod cyfnod adolygiad Swyddogion llawn amser yr Undeb Myfyrwyr ehangach wedi bod yn un heriol dros ben, roedd gweld angerdd a brwdfrydedd aelodau presennol a blaenorol UMCA wir yn arbennig ac yn uchafbwynt imi’n bersonol. Daeth yn amlwg pa mor allweddol yw’r Undeb Gymraeg i fywydau myfyrwyr yma’n Aberystwyth, ac yn wir daeth miloedd at ei gilydd er mwyn ceisio mynd i’r afael a’r frwydr i gadw swydd Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA yn un lawn amser. Credaf y gallwn ymfalchïo yn y modd y gwnaeth ein myfyrwyr frwydro dros yr hyn a oedd yn bwysig iddynt a llwyddo i nid yn unig warchod y swydd ond hefyd hawlio enw newydd iddi, sef yn syml, Llywydd UMCA.
Yn olaf, roedd Trip Dirgel UMCA eleni i Ben Llŷn yn sicr yn uchafbwynt. Cawsom groeso cynnes dros ben yn nhafarn Yr Heliwr a Chwrw Llŷn yn Nefyn, ac yna’r Madryn yn Chwilog ac roedd yn amlwg fod pawb wedi mwynhau’n arw. Roedd gweddill Wythnos RAG hefyd yn eithriadol o lwyddiannus gyda UMCA yn llwyddo i godi dros £3000 am yr ail flwyddyn yn olynol at elusen arbennig iawn, sef Teenage Cancer Trust Cymru.
Hoffwn orffen drwy ddiolch o galon i holl aelodau UMCA am ddwy flynedd gwbl fythgofiadwy wrth y llyw, a phob lwc anferthol i Nanw a’r pwyllgor newydd. Mae dyfodol yr Undeb Gymraeg yn Aberystwyth yn sicr mewn dwylo saff.
Llawer o gariad,
Elain x