Diweddglo 2024/2025 Will

officerblogwelsh

Hoffwn feddwl fy mod wedi cael blwyddyn wirioneddol effeithiol fel Swyddog Materion Academaidd Prifysgol Aberystwyth. Wrth edrych yn ôl ar fy amser yma, rwy’n falch o’r cerrig milltir pwysig rydw i wedi helpu eu cyrraedd – a phob un wedi cael effaith fawr ar brofiad academaidd ein Prifysgol annwyl.

Niwroamrywiaeth: Y cyntaf o’m prif flaenoriaethau oedd niwroamrywiaeth, achos sy’n agos iawn at fy nghalon, gan fy mod i fy hun yn niwrowahanol. Yn ystod y flwyddyn, rydw i wedi fy mwrw fy hun i greu newid gwirioneddol – trwy drawsnewid polisïau ar amgylchiadau arbennig a’r polisi ‘fit-to-sit’, ac integreiddio atebion trwy Ddeallusrwydd Artiffisial – er mwyn sicrhau bod myfyrwyr niwrowahanol yn gallu manteisio ar addysg i’r eithaf a ffynnu ynddi. Mae’r gwaith hwn yn bwysig iawn i mi, ac rwy’n credu’n gryf y bydd yn agor drysau i lawer.

Amgylchiadau Arbennig: Rydw i wedi ymdrechu’n galed i weithredu’r Polisi Amgylchiadau Arbennig, system gefnogaeth hanfodol i fyfyrwyr sy’n wynebu cyfnodau anodd. Mae wedi bod yn wych gweld y polisïau hyn yn dwyn ffrwyth, gan roi addasiadau hanfodol sy’n grymuso myfyrwyr i lwyddo. Un o’r datblygiadau mwyaf ystyrlon eleni yw nad oes angen tystiolaeth i gyflwyno cais mwyach – cam pwysig tuag at degwch a dealltwriaeth. Mae cymaint mwy hoffwn ei rannu, ond am nawr, allaf i ond ddweud bod pethau eithriadol ar y gorwel.

Deallusrwydd Artiffisial: Carreg filltir arall rwy’n ymfalchïo ynddi yw symleiddio defnydd ar ddeallusrwydd artiffisial yn ein prosesau academaidd. Mae wedi bod yn llafur cariad, gweithio’n ddiflino i wneud pethau’n fwy effeithlon a hygyrch i bawb – myfyrwyr a staff. Gyda’r timau ymroddgar yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a’r Llyfrgell, rydym wedi rhoi canllawiau a systemau at ei gilydd sy’n ddeniadol ac hawdd eu defnyddio. Mae’r system ‘golau traffig’ a ddaw yn fuan yn enghraifft o sut y bydd yr arloesi hyn yn parhau i lywio dyfodol llachar a mwy cysylltiedig.

Wrth baratoi i ymadael, rwy’n teimlo cymysgedd o dristwch a diolchgarwch – gyda’r dymuniad y gallwn aros yn hirach, parhau i helpu a gwneud gwahaniaeth. Mi wn nad wyf wedi ceisio gwneud newidiadau mawr, crand bob tro; weithiau, mae’r trawsnewidiadau mwyaf dwfn yn digwydd yn dawel, heb sôn mawr, trwy ymdrech ddiwyd ac ystyrlon.

Os ydych chi’n fy ngweld o gwmpas Aberystwyth, cofiwch ddweud helo – dydw i ddim yn mynd i ffwrdd am y tro.

Unwaith eto, rwy’n credu’n gryf mai “lle bo Will, mae ewyllys”.

Comments

 
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576