Dewch i fy nabod: Hannah

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Enw: Hannah Lunnon - Swyddog Llesiant

Cyflwyniad byr…

Helo, Hannah Lunnon ydw i ac fe wnes i astudio Seicoleg yn Aberystwyth. Sefais ar gyfer rôl Swyddog Llesiant eleni oherwydd fy ymrwymiad i sicrhau bod gwahaniaeth cadarnhaol yn cael ei wneud i'r holl fyfyrwyr, y rhai cyfredol a’r rhai ddaw yma yn y dyfodol.

Dweda ffaith ddiddorol neu 'random' amdanat ti dy hun...

Rwy'n mwynhau rhedeg yn fawr ac ym mis Mawrth 2019 rhedais fy Hanner Marathon Llundain gyntaf erioed, gan godi £350 ar gyfer elusen; bu bron iawn i hynny beidio â digwydd, gan fod y râs ar yr un diwrnod â Hanner Marathon Paris, a ganslwyd oherwydd COVID-19!

Dewisa dri gair sy'n dy ddisgrifio orau.

Tosturiol, Brwdfrydig a Hwyliog!

Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen? a pha 3 pherson enwog fyddet ti'n eu gwahodd am fwyd?

Mae hwn yn un braidd yn rhyfedd, dwi'n gwybod, ond byddwn i’n dewis KFC (gyda stwnsh a grefi, wrth gwrs!) a byddwn yn hapus rhannu’r wledd yma gyda Molly Mae, Tyson Fury a’r Dalai Lama.

Beth yw dy hobïau neu ddiddordebau?

Dwi wrth fy modd yn bod yn yr awyr agored, felly y tu allan i'r gwaith rwy'n treulio'r rhan fwyaf o fy amser yn gwneud unrhyw beth sy’n ymwneud â’r awyr agored fel rhedeg, mynd ar dro ar y beic, nofio ac rwy'n fodlon yn cerdded i unrhyw le. Yr hyn sy’n syndod i rai yw’r ffaith fy mod i hefyd yn dilyn pêl-droed yn frwd (Arsenal… yn anffodus) a bocsio.

Pam wnest ti sefyll am y rôl hon?

Yn ystod fy nghyfnod yn Aberystwyth bu cyfnod pan oeddwn i'n teimlo'n hollol ddiymadferth ac unig; rwy’n benderfynol nawr o sicrhau na fydd yn rhaid i unrhyw fyfyriwr deimlo felly. Mae gen i hyder yn fy llais fy hun ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gwahaniaeth cadarnhaol yn cael ei wneud i fywyd yn y Brifysgol. Rwy'n angerddol am sicrhau bod pob myfyriwr yn y Brifysgol yn teimlo'n ddiogel, yn iach, yn hapus, ac yn bwysicaf oll, eu bod yn cael eu clywed!

At beth ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?

Yn ystod fy mlynyddoedd fel myfyriwr israddedig, wnes i erioed gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Brifysgol na'r Undeb, felly eleni rwy'n edrych ymlaen yn fawr at chwarae mwy o ran yn yr Undeb, gan weithio ochr-yn-ochr â grwp o bobl mor anhygoel a chefnogol. Yn ogystal â hynny, rydw i hefyd yn teimlo’n gyffrous i wneud ffrindiau newydd, tra hefyd yn dysgu mwy amdanaf fy hun fel unigolyn wrth wneud hynny. Ac i gloi, gallaf ddweud fy mod yn edrych ymlaen yn eiddgar i weld rhai o fy ngweledigaethau a syniadau yn cael eu rhoi ar waith o'r diwedd, a’r effaith gadarnhaol y byddant yn ei chael ar fyfyrwyr a bywyd Prifysgol yn gyffredinol. 

Wyt ti’n gallu enwi rhai o’r achosion sy'n bwysig i ti?

Rwy'n angerddol iawn am hyrwyddo atal hunanladdiad a chydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl dynion, a'r stigma sy'n dal i'w amgylchynu. Mae elusennau a gallu rhoi yn ôl i'r rhai sy'n llai ffodus hefyd yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi.

Beth yw dy hoff le yn Aberystwyth?

Fy hoff le yn Aberystwyth gyfan yw’r Viewpoint. Yn fy marn i dyma’r  lle gorau i wylio’r machlud; gallwn eistedd yno am oriau.

Pe bai modd i ti fod yn unrhyw anifail beth fyddet ti a pham?

Byddwn i'n eliffant, oherwydd mae gen i obsesiwn amdanyn nhw.

Oes gen ti unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?

Dydw i ddim yn siwr o ble y daeth, na pham, ond rwy'n berson eithaf ofergoelus; fyddwch byth yn fy ngweld yn cerdded dros dair draen ger ei gilydd neu o dan ysgol.

Pa un peth wyt ti'n meddwl y dylai pawb ei wneud / roi cynnig arno o leiaf unwaith yn ystod eu hoes?

Tra yn Aberystwyth mae'n rhaid i chi, o leiaf unwaith, gael coelcerth a barbeciw ar Draeth y De. 

Rwyt ti ar dy ffordd i'r gwaith ar fore Llun ... pa gân sy'n drac sain yn dy ben?

Unrhyw gân gan 'The Weeknd', fe yw fy ffefryn!

Wyt ti’n gallu enwi hoff le rwyt ti wedi ymweld ag e, a dweud pam?

Roeddwn yn ddigon ffodus i ymweld â Sri Lanka yn 2015 a dyma fy hoff le i mi ymweld ag ef erioed; dydw i ddim yn credu y gallai unrhyw le fod yn well na hwn. Roedd hon yn daith a newidiodd fy mywyd a chwympais mewn cariad â'r diwylliant. Hwn hefyd oedd yr unig dro yn fy mywyd i mi erioed weld eliffantod yn eu cynefin naturiol ac yn y gwyllt!

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576